Gwastraff nad oes modd ei ailgylchuBob 3 Wythnos

Gan fod modd ailgylchu’r rhan fwyaf o wastraff bellach, ni ddylai fod llawer o eitemau i’w gwaredu yn y bag du. Gall enghreifftiau gynnwys:

  • Gwastraff o’r sugnydd llwch
  • Lludw wedi oeri
  • Deunydd pacio nad oes modd ei ailgylchu ee pacedi creision, codau bwyd anifeiliaid anwes, papurau lapio siocledi
  • Ffyn Gwlân Cotwm
  • Weips
  • Stribedi tabledi meddygol
  • Gwastraff glanweithiol

Rhaid i breswylwyr ddarparu cynhwysydd addas a diogel ar gyfer y gwastraff hwn.

Ni ddylid rhoi’r eitemau canlynnol yn eich gwastraff na ellir ei ailgylchu:

  • Deunydd y gellir ei ailgylchu
  • Gwastraff bwyd
  • Gwydr
  • Gwastraff gardd

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i gael gwared ar rai eitemau penodol yn ein rhestr A-Y Gwastraff.

Mae’r Cyngor yn gwerthu Biniau Olwyn hefyd. Mae’r prisiau ar y tabl isod (TAW yn gynwysedig):

Bin Olwynion
240 litr
£106.00 wedi’i ddosbarthu neu £80.00 os yw’n cael ei gasglu (o ddepo’r Cyngor drwy apwyntiad, a thalu amdano o flaen llaw)
Bin Olwynion
1100 litr
£625.00 wedi’i ddosbarthu neu £550.00 os yw’n cael ei gasglu (o ddepo’r Cyngor drwy apwyntiad, a thalu amdano o flaen llaw)

Cwestiynau am y gwasanaeth casglu newydd

Does gen i ddim lle i gadw bagiau du am 3 wythnos. Beth ddylwn i ei wneud?

Mae mwyafrif eich gwastraff yn medru cael ei ailgylchu neu’n wastraff bwyd. Mae’r rhain yn cael eu casglu bob wythnos. Defnyddiwch y bagiau ailgylchu a’r biniau gwastraff bwyd sydd wedi’u darparu a dylai hyn leihau faint o wastraff y bydd angen i chi ei storio am fwy nag wythnos.

Mae gennym ni blant ifanc sydd mewn cewynnau. Oes disgwyl i ni gadw’r cewynnau am 3 wythnos?

Byddwn yn cyflwyno casgliad ar wahân ar gyfer casglu cewynnau bob pythefnos fel rhan o’r gwasanaeth newydd, felly ni fydd angen i chi roi’r cewynnau yn y sach ddu mwyach.  Bydd angen i drigolion wneud cais am y gwasanaeth hwn.

Fel arall, gallwch newid i ddefnyddio Cewynnau Go Iawn. Mae gan y Cyngor gynllun ar gyfer Cewynnau Go iawn a all eich helpu i wneud y newid. Mae manylion y prosiect ar gael ar y dudalen Prosiect Cewynnau Go Iawn.