Derbyn
- Caniau
- Cardbord
- Gwastraff cartref cyffredinol na ellir ei ailgylchu (gweler Nodyn 1)
- Poteli a jariau gwydr
- Gwydr plât
- Gwastraff gardd
- Paent a thoddyddion
- Olew gwastraff (llysiau a mwynau)
- Papur
- Plastigau
- Metel sgrap
- Tecstilau (gan gynnwys dillad, esgidiau, duvets a chlustogau)
- Eitemau trydanol gan gynnwys offer cartref (gweler Nodyn 2)
- Matresi (gweler Nodyn 3)
- Batris (asid plwm a chell sych)
- Tiwbiau fflwroleuol a bylbiau
- Ffonau symudol
- Cetris argraffydd
- Dodrefn
Cyfyngedig
- Asbestos – wedi'i gyfyngu i 2 ddalen neu'r cyfwerth y flwyddyn (mae gofynion penodol yn berthnasol gweler Nodyn 4)
- Gwastraff DIY – wedi'i gyfyngu i 5 sach rwbel/ adeiladwyr (uchafswm 20kg yr un) o bridd, rwbel neu wastraff DIY y flwyddyn
- Bwrdd plastr – 2 ddalen y flwyddyn
- Gosodiadau a ffitiadau'r cartref wedi'u cyfyngu i un eitem (e.e. un sinc, un cwpwrdd cegin, un ffrâm ffenestr, un drws, un stôr-wresogydd ac ati)
- Gwastraff o glirio tŷ (cysylltwch â ni am gyngor)
- Pren wedi'i gyfyngu i wastraff gardd prennaidd, dodrefn pren, darnau bach o osodiadau a ffitiadau, un sied ardd fach (cysylltwch â ni am gyngor)
Ddim yn cael ei dderbyn
- Gwastraff masnach/busnes gan gynnwys gwastraff adeiladwyr (gweler Nodyn 3)
- Ceir/carafanau a rhannau ceir/carafanau a cherbydau diwedd oes
- Silindrau nwy a diffoddwyr tân
- Teiars
- Nifer fawr o osodiadau a ffitiadau cartref
- Tai allan (siediau mawr, tai gwydr, bynceri)
- Gwastraff amaethyddol
- Gwastraff anifeiliaid anwes
- Gwastraff bwyd (cysylltwch â ni am gyngor)
Nodiadau:
- Rydym yn cadw'r hawl i wirio cynnwys gwastraff sydd mewn sachau du/sachau sbwriel. Rhaid didoli eitemau y gellir eu hailgylchu i'r cynhwysydd priodol ar y safle.
- Mae angen llenwi Ffurflen Ymwadiad Amonia ar gyfer oergelloedd amonia.
- Mae gwastraff masnach yn golygu unrhyw wastraff a gynhyrchir o ganlyniad i unrhyw weithgaredd masnachol, e.e. dodrefn a matresi (1 fesul cartref) o eiddo rhent wedi'i ddodrefnu, gwastraff swyddfa, gwastraff o fusnesau yn y cartref, gwastraff o lety hunanarlwyo, gwastraff gardd wedi'i gynhyrchu gan wasanaethau garddio am dâl.
- I gael arweiniad ar ddelio ag asbestos, ewch i'r A-Y o wastraff.