Ailgylchu gwastraff bwydBob wythnos

Dylid rhoi gwastraff bwyd allan dim ond mewn leiniwr gwastraff bwyd wedi’i glymu a’i roi y tu mewn i’r cynhwysydd gwastraff bwyd mawr; darperir y leinwyr gwastraff bwyd a’r cynwysyddion gan y Cyngor

  • Holl wastraff bwyd (wedi’i goginio neu beidio) neu bethau o’r rhewgell
  • Unrhyw fwyd dros ben ar blatiau
  • Unrhyw fwyd hen sydd wedi dyddio
  • Bara, crwst a melysion
  • Cynnyrch llaeth
  • Pysgod (wedi’u coginio neu’n amrwd), esgyrn a charcasau
  • Cig (wedi’u coginio neu’n amrwd), esgyrn a charcasau
  • Bagiau te a choffi mâl
  • Ffrwythau a llysiau (rhai cyfan a philion)
  • Plisgyn wyau
  • Ychydig bach o olew coginio (Gwnewch yn siŵr ei fod wedi oeri i dymheredd yr ystafell cyn ei roi yn y bin gwastraff bwyd)

Os oes angen bin bwyd newydd arnoch yn lle un sydd wedi mynd ar goll neu wedi torri neu os oes angen bin gwastraff bwyd ychwanegol arnoch gan fod tipyn o wastraff bwyd gennych (ee teulu mawr) yna cysylltwch â ni.

Erbyn hyn, mae’r Cyngor yn darparu leinwyr plastig AM DDIM ar gyfer gwastraff bwyd. Defnyddiwch y leinwyr a ddarperir gan y Cyngor yn eich cadi cegin. Peidiwch â defnyddio unrhyw fath arall o fag plastig os gwelwch yn dda gan fod y leinwyr a ddarperir gan y Cyngor wedi’u cymeradwyo gan y cyfleuster trin gwastraff bwyd. Mae’r leinwyr plastig yn cael eu tynnu o’r cyfleuster trin gwastraff bwyd a’u danfon i safle Ynni o Wastraff lle mae’r leinwyr yn cael eu trin i gynhyrchu gwres a thrydan.

Clymwch eich tag gwyn wrth eich cynhwysydd gwastraff bwyd ar y diwrnod casglu i wneud cais am fwy o leinwyr gwastraff bwyd. Fel arall, mae’r leinwyr gwastraff bwyd ar gael yn eich Canolfannau Ailgylchu Cymunedol.

Os oes angen leinwyr plastig arnoch ar gyfer y biniau bwyd mawr, maent yn £1.90 am rolyn o 26 leiniwr ac ar gael o’r Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid - Swyddfeydd Lleol neu o Ganolfannau Croeso Ceredigion. Noder nad yw defnyddio’r leinwyr plastig hyn yn hanfodol.