Pecyn Ailgylchu ar gyfer Cartrefi Ceredigion

Rydym yn cyflenwi blychau, cwdau a bagiau i bob cartref yng Ngheredigion er mwyn ei gwneud hi’n haws ailgylchu.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi’r gwastraff cywir allan i’w gasglu yn y ffordd gywir ar y diwrnod cywir.

Y Gwastraff Cywir

Gwiriwch pa eitem sy’n mynd i ba flwch drwy ddefnyddio’r daflen Gwasanaeth Casglu Gwastraff y Cartref (gweler llun 1). Hefyd gallwch weld sut mae cael gwared ar eitemau eraill drwy fynd i dudalen A-Y Gwastraff.

1

Y Ffordd Gywir

Gwastraff bwyd:

Leiniwch y cadi gwastraff bwyd (llun 2)

2. â’r cwdau a ddarparwyd (llun 3),

3. a phan fydd yn llawn, clymwch y cwdyn a’i roi yn y bin gwastraff bwyd a roddir ar ymyl y ffordd (llun 4).

4. Rhowch y bin gwastraff bwyd allan i’w gasglu ar y diwrnod cywir.

Eitemau ailgylchu cymysg:

Rhowch eitemau ailgylchu glân yn y bag ailgylchu clir (llun 5).

5. Pan fydd yn llawn, clymwch y bag a’i roi allan i’w gasglu ar y diwrnod cywir. 

Poteli a jariau gwydr:

Defnyddiwch y blwch ar gyfer poteli a jariau gwydr (llun 6). Mae blwch llai o faint ar gael ar gais.

6

Y Diwrnod Cywir

Mynnwch gip ar galendr eich casgliadau ailgylchu a gwastraff (llun 7). Hefyd mae modd ichi weld pryd mae’ch casgliad nesaf drwy ddefnyddio’r chwiliadur côd post.

7.

Angen un newydd?

Yn achos cwdau gwastraff bwyd a bagiau ailgylchu clir, defnyddiwch y sticeri melyn i ofyn am ragor; rhowch y sticeri ar ben eich bag llawn a bydd y criw casglu yn gadael rholyn newydd i chi yn eich man casglu.  Neu, ewch i'ch Canolfan Ailgylchu Cymunedol agosaf.  I gael biniau a chadis newydd, cysylltwch â ni.

Sylwch nad ydym yn darparu cynwysyddion ar gyfer gwastraff na ellir mo’i ailgylchu. Disgwylir i drigolion ddarparu cynwysydd addas a sicr, megis bag du cryf neu fin olwynion/ whilfin.