Mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu gwasanaeth ar hyd y flwyddyn ar gyfer casglu gwastraff o'r ardd. Mae bagiau gwastraff gardd ar gael o'r llyfrgelloedd y Cyngor yn Aberaeron, Aberteifi, Aberystwyth, Cei Newydd, Llambed a Llandysul.

Casglu Gwastraff o'r Ardd

Nid oes gofyniad ar y Cyngor i gasglu gwastraff o erddi pobl. Er mwyn cynnig y gwasanaeth i bawb, mae’r Cyngor yn rhoi cymhorthdal sylweddol tuag at gasglu gwastraff o’r ardd a’i drin. Serch hynny, gofynnir i ddefnyddwyr y gwasanaeth dalu rhywfaint amdano (£2.00 y bag). Cesglir gwastraff o’r ardd bob pythefnos sydd nawr yn wasanaeth ar hyd y flwyddyn.

I ddefnyddio'r gwasanaeth bydd angen:

  • Prynu bagiau ar gyfer gwastraff o’r ardd gan y Cyngor, bagiau sydd â logo’r Cyngor wedi’i brintio ar yr ochr. Mae'r rheiny ar gael gan eich Llyfrgell leol y Cyngor. Wrth brynu’r bagiau, mae’n dynodi eich bod wedi talu am y casgliad (ac nid am y bag yn unig)
  • Rhowch y gwastraff o’r ardd yn y bagiau - (peidiwch â’u gorlenwi - dylen nhw ddim pwyso mwy nag 20 cilogram neu byddant yn cael eu gadael)
  •  I wneud cais am gasglu gwastraff o'r ardd ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i drefnu ar 01545 570881 neu e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk
  • Bydd angen i chi roi eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn yn ogystal â bras amcan faint o fagiau fydd yna i'w casglu. Bydd staff y Ganolfan Gyswllt yn rhoi gwybod i chi ar ba ddiwrnod y gwneir y casgliad
  • Rhowch y bagiau allan i'w casglu erbyn 08:00 ar y diwrnod priodol. Ni fydd y cyngor yn casglu unrhyw wastraff o’r ardd sydd heb ei roi ym magiau gwyrdd y Cyngor

Nid oes cyfyngiad ar faint o fagiau y gallwn eu casglu. Y cwbl y mae'r Cyngor yn gofyn amdano yw bras amcan o nifer y bagiau pan fyddwch yn bwcio ac os fydd nifer y bagiau a roddir i'w casglu yn go debyg i’r nifer hwnnw, yna caiff pob un o'r bagiau eu casglu. Fodd bynnag, os oes gwahaniaeth mawr efallai y bydd yn rhaid gadael rhai bagiau os nad oes lle ar y lori. Gallwch ffonio'r Cyngor i gynyddu nifer y bagiau hyd at hanner dydd ddiwrnod cyn y casgliad.

Gall gwastraff gardd gynnwys:

  • Dail
  • Glaswellt
  • Planhigion
  • Tocion coed
  • Blodau
  • Tocion llwyni
  • Coed Nadolig go iawn

Nid yw gwastraff gardd yn cynnwys:

  • Potiau planhigion
  • Defnyddiau gwneud, er enghraifft, dodrefn patio
  • Defnyddiau adeiladu
  • Cerrig/creigiau
  • Coed
  • Pridd
  • Efwr Enfawr
  • Clymog Japan
  • Llysiau'r Gingroen

Am wybodaeth ynglŷn â chael gwared ar Glymog Japan a Llysiau'r Gingroen, cliciwch ar dab Chwyn Niweidiol ar ben y dudalen.

Pethau eraill i’w gwneud â gwastraff o’r ardd

Safleoedd Gwastraff Domestig - cewch ddod â gwastraff gardd i holl Safleoedd Gwastraff Domestig y sir AM DDIM. Bydd angen caniatâd os ydych chi'n defnyddio fan/pic-yp mawr neu drelar dwy echel. Caiff y gwastraff ei drin mewn Bin Compostio sy'n creu gwrtaith da.