Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â Cadwch Gymru’n Daclus i ddarparu pecynnau codi sbwriel o hybiau penodol ar draws Ceredigion, yn ein llyfrgelloedd yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan.

Mae pob pecyn yn cynnwys:

  • Teclyn codi sbwriel
  • Bagiau sbwriel ac ailgylchu ar gyfer deunyddiau a gasglwyd
  • Cylch i gadw’r bagiau ar agor
  • Siaced lachar i gadw gwirfoddolwyr yn ddiogel

Gallwch wneud cais i fenthyg pecyn o’ch llyfrgell agosaf drwy ddefnyddio’r ffurflen isod.

Gofynnwn i chi wneud pob ymdrech i ddychwelyd y pecyn erbyn y dyddiad a nodir gennych i’n helpu i sicrhau bod y gwasanaeth benthyca yn rhedeg yn llyfn ac yn caniatáu i gymaint o grwpiau â phosibl i wneud eu rhan i gadw Ceredigion yn ysblennydd!

Delio gyda'ch sbwriel sydd wedi'u codi

Pan yn gwneud trefniadau i gasglu eich pecyn a wnewch chi gysylltu gyda thîm Glanhau Stryd Ceredigion i drefnu lle ac amser er mwyn casglu bagiau o'r sbwriel sydd wedi'u codi. Gallwch gysylltu â'r tîm drwy clic ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk 

Cais i gasglu Pecynnau Codi Sbwriel

Dywedwch wrthym am eich profiad o Godi Sbwriel