Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu pedwar Safle Gwastraff Cartref yn y sir. Cânt eu darparu at y dibenion a nodir isod yn unig. Rydym yn gweithio'n galed i geisio darparu'r gwasanaethau y mae eu hangen ar ein trigolion a gwneud hynny mewn modd mor gost-effeithiol â phosibl. Helpwch ni drwy gydymffurfio â'r rheolau safle hyn.

  • Mae Safleoedd Gwastraff Cartref yng Ngheredigion at ddefnydd trigolion Ceredigion yn unig. Mae'n bosib y gofynnir i chi ddarparu prawf o'ch cyfeiriad pan fyddwch yn ymweld â'r safle. Derbynnir y canlynol fel prawf o'ch cyfeiriad yng Ngheredigion bil Treth Cyngor, bill gwasanaethau cyhoeddus (heb fod yn hwy na 3 mis) neu trwydded yrru.

  • Dim ond gwastraff o'ch cartref all gael ei waredu yn y safle hwn.

  • Ni dderbynnir gwastraff masnach yn y safle. Mae'n bosib y gofynnir i chi lofnodi ffurflen ymwadiad os oes unrhyw amheuaeth ynghylch tarddiad y gwastraff.

  • Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i ailgylchu cymaint o wastraff y sir ag sy'n bosib. Mae'r Safleoedd Gwastraff Cartref yn cynnig llawer o gyfleoedd ailgylchu i drigolion. Mae'n ofynnol i chi wahanu'ch gwastraff cyn dod i'r safle. Mae hyn yn sicrhau bod gwastraff yn cael ei reoli yn y modd mwyaf cost-effeithiol ac amgylcheddol posibl. Os nad ydych wedi gwahanu eich gwastraff cyn dod i mewn i'r safle, dylech wneud hynny, ac efallai y gofynnir i chi ddidoli unrhyw wastraff sydd heb ei ddidoli ar y safle.

  • Ar yr amod bod gwastraff o ffynhonnell ddomestig wirioneddol a'i fod wedi'i ddidoli'n gywir i'w ailgylchu, nid oes unrhyw gyfyngiad ar faint o wastraff y gellir ei gludo i'r safle, ac eithrio'r cyfyngiadau a nodir yn y rheolau hyn.

  • Rhaid gosod yr holl wastraff yn y cynwysyddion cywir.

  • Mae rhai o'r safleoedd yn cynnig ardal lle mae deunyddiau'n cael eu neilltuo i'w hailddefnyddio. Trafodwch drefniadau penodol â gweithredwr y safle. Am resymau iechyd a diogelwch, ni ddylid symud unrhyw eitemau o gynhwysydd neu oddi ar y llawr heb ganiatâd penodol gweithredwr y safle.

  • Ni chaniateir cario unrhyw eitemau i'r Safle Gwastraff Cartref o gerbydau sydd wedi eu parcio y tu allan i ffin y safle.

  • Rhaid i blant ac anifeiliaid anwes aros yn y cerbyd bob amser.

  • Dylai defnyddwyr y safle ymddwyn yn gyfrifol bob amser a pheidio ag achosi perygl i'w hunain nac i eraill.

  • Ni fydd ymddygiad difrïol tuag at staff neu unrhyw un sy'n defnyddio'r safle yn cael ei oddef. Gall hyn olygu bod unigolion yn cael eu gwahardd rhag defnyddio'r safle a/neu y bydd y mater yn cael ei adrodd i'r Heddlu.

  • Ni chaniateir gadael gwastraff y tu allan i gatiau'r safle – mae system wyliadwriaeth ar waith ym mhob safle.

  • Nid oes rheidrwydd arnom i dderbyn gwastraff DIY ar y Safle Gwastraff Cartref; fodd bynnag, mae'r safleoedd ar gael i adael ychydig bach o wastraff o weithgareddau DIY.

  • Darperir y safleoedd i gynnig ffordd i drigolion gael gwared ar feintiau bach o wastraff cartref. Ni ddylid eu defnyddio fel modd o osgoi costau gwaredu lle mae llawer iawn o wastraff yn cael ei gynhyrchu. Am y rheswm hwn, mae rhai cyfyngiadau'n berthnasol i'r math o wastraff a faint o wastraff, a maint a'r math o gerbyd a ganiateir ar y safle. Rheolir cyfyngiadau cerbydau trwy gyhoeddi Trwyddedau Dydd.

  • Mae'r Cyngor a'i weithredwyr Safle Gwastraff Cartref yn cadw'r hawl i wrthod gwastraff nad yw'n cydymffurfio â rheolau'r safle neu sydd, yn eu barn nhw, yn afresymol naill ai oherwydd ei fath neu ei faint.

Ydy rhywun arall yn mynd â'ch gwastraff i'r safle?

  • Oeddech chi'n gwybod bod gennych chi fel deiliad tŷ ddyletswydd gyfreithiol i wirio bod yr unigolyn sy'n derbyn eich gwastraff wedi'i drwyddedu i wneud hynny, ac i ble mae'n mynd ag ef.

  • Os ydych yn talu rhywun i gludo eich gwastraff, nid yw'n wastraff domestig mwyach ac ni fydd yn cael ei ganiatáu ar y Safle Gwastraff Cartref.

  • Gall fod yn dderbyniol i ffrind, aelod o'r teulu, cymydog ac ati gymryd eich gwastraff yn wirfoddol. Fodd bynnag, cynhyrchwr y gwastraff sy'n parhau i fod yn gyfrifol amdano, a rhaid iddo sicrhau bod y gwastraff yn cael ei reoli'n gyfreithiol. Fe'ch cynghorir felly i fynd gyda'r sawl sy'n cludo'r gwastraff i'r safle. Os bydd hyn yn digwydd yn rheolaidd, cynghorir bod y sawl sy'n cludo'r gwastraff yn gwneud cais i Gyfoeth Naturiol Cymru am drwydded cludwr gwastraff haen is. Os rhoddir unrhyw dâl i'r cludwr gwastraff, ystyrir bod y gwastraff yn wastraff masnach gan fod y gweithgaredd yn fasnachol, ac ni chaniateir y gwastraff.

  • Mae pob Safle Gwastraff Cartref Ceredigion yn cael ei reoli ar ran Cyngor Sir Ceredigion gan gwmnïau rheoli gwastraff preifat. Os oes unrhyw anghydfod ynghylch rheolau'r safle, bydd swyddogion Cyngor Sir Ceredigion yn ystyried y mater, a bydd unrhyw benderfyniad a wneir gan swyddog o'r Cyngor yn derfynol.