Skip to main content

Ceredigion County Council website

Dysgu Bro Ceredigion - Dysgu Oedolion yn y Gymuned

Mae Dysgu Bro Ceredigion, sef rhaglen Dysgu Oedolion yn y Gymuned, yn rhan o wasanaeth Dysgu Gydol Oes Cyngor Sir Ceredigion. Ein nod yw darparu cyfleodd dysgu i bobl Ceredigion yn eu cymuned a fydd yn eu hannog i ddatblygu diddordebau newydd, gweithio tuag at ennill cymhwyster neu wella eu sgiliau ar gyfer y gweithle.

Mae Dysgu Bro yn rhan o Bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Ceredigion sy'n cynllunio ac yn cydlynu dysgu oedolion yn y gymuned yng Ngheredigion. Mae aelodau eraill y bartneriaeth yn cynnwys Coleg Ceredigion, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Hyfforddiant Ceredigion Training a Thîm Cymorth Cyflogadwyedd Ceredigion.

Gallwch gysylltu â ni drwy'r post ar Dysgu Bro Ceredigion, Canolfan Ddysgu Llanbadarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3RJ, dros y ffôn ar 01970 633540 neu drwy e-bost ar admin@dysgubro.org.uk.