Cered yw Menter iaith Ceredigion, dan adain y Cyngor Sir ac yn cael ei hariannu gyda chymorth gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Mae amcanion Cered yn cynnwys:
- codi ymwybyddiaeth o werth y Gymraeg yn gyffredinol
- codi hyder a hyfedredd siaradwyr Cymraeg
- hwyluso cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac annog y defnydd ohoni
- hyrwyddo statws y Gymraeg
- darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad
Am fwy o wybodaeth ynglýn a Cered beth am i chi ymweld a gwefan Cered: www.cered.org
Ffôn: 01545 572350