Nod Theatr Felin-fach yw darparu cyfleoedd addysgol eang i boblogaeth Ceredigion a Gorllewin Cymru trwy gyfrwng y celfyddau yn gyffredinol, ynghyd a drama, theatr, dawns a'r cyfryngau yn arbennig.

Theatr Felinfach LogoBwriada'r ganolfan ymgyrraedd at y nod drwy ddarparu cyfleoedd cyfranogi ar sail drws agored ar gyfer plant, pobl ifanc, oedolion a gwirfoddolwyr. Mae'r theatr yn datblygu rhaglenni gwaith sy'n cynnig cyfleoedd penodedig ar gyfer plant a phobl ifanc, grwpiau dan anfantais a dysgwyr Cymraeg o bob oedran.

Yn ogystal, mae'r theatr yn medru darparu cyngor a chymorth i fentrau newydd. Cyhoeddir rhaglen ddigwyddiadau ar ddechrau bob tymor ac mae'r rhaglenni ar gael o Swyddfa Docynnau y Theatr ynghyd a chanolfannau penodedig drwy'r sir.

Am fwy o wybodaeth ymweld â wefan ni: theatrfelinfach.cymru neu ffoniwch y theatr ar 01570 470697.