Yn gyffredinol, cyfyngir cludiant am ddim i ddisgyblion sy'n mynychu'r ysgol a ddynodir gan yr AALl fel yr un sy'n gwasanethu'r ardal lle maent yn byw, ac i ddisgyblion sy'n preswylio o fewn y pellter angenrheidiol i'r ysgol.

Dyma'r pellteroedd perthnasol:-

  • Disgyblion Oed Cynradd (o 5 mlwydd oed) - 2 filltir new fwy o'r Ysgol
  • Disgyblion Oed Uwchradd - 3 milltir neu fwy o'r Ysgol

Caiff pellter ei fesur yn ôl y ffordd fyrraf i'w cherdded rhwng cartref ac ysgol. (O ffordd fawr a gynhelir gan y cyngor sydd agosaf at yr eiddo, i'r fynedfa ysgol agosaf sy'n arwain at safle'r ysgol)

Gall cymorth gael ei ddarparu hefyd ar gyfer disgyblion o dan amgylchiadau arbennig ar sail:-

  • ysgol yn llawn
  • cau'r ysgol/ail drefnu ysgol(ion)
  • diogelwch
  • meddygol
  • datganiad o anghenion addysgol arbennig
  • newid man preswylio yn ystod blywddyn olaf arholiadau
  • parhau gyda chwrs astudio safon uwch nad yw ar gael yn yr ysgol a ddynodwyd
  • credo grefyddol (o fewn 8 milltir i'r ysgol)
  • myfyrwyr ôl-16

Sut fedraf i wneud cais?

Ffurflen Cais

Cludiant Ysgol / Coleg - Canllaw i Rieni, Gwarcheidwad a Dysgwyr

Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol / Coleg