Hunanasesiad ac Adolygiad o Amcanion Llesiant Corfforaethol

Cyflwynodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 drefn rheoli perfformiad newydd ar gyfer awdurdodau lleol yn seiliedig ar hunanasesiad.

Yn syml, mae hunanasesu yn ymwneud ag awdurdodau lleol yn hunanymwybodol o sut y maent yn perfformio, lle mae angen iddynt wella a sicrhau bod gwasanaethau’n gynaliadwy yn y dyfodol. Mae’n broses barhaus o ddysgu a chyflawni gwelliannau flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Nid yw'r egwyddorion hyn yn newydd i Gyngor Sir Ceredigion. Rydym wedi bod yn defnyddio hunanasesu ers tro fel arf i fyfyrio ar sut yr ydym yn gwneud pethau nawr, a sut y gallwn gyflawni gwelliannau neu ddarparu mwy o effeithlonrwydd. Rhai enghreifftiau o hyn yw'r 'Rhaglen Gydol Oed a Llesiant' arloesol sy'n trawsnewid y ddarpariaeth gofal cymdeithasol yn y Sir, a'r defnydd arloesol o'n hadnoddau yn ystod COVID-19 i ddarparu ymateb effeithiol i'r pandemig a welodd Ceredigion yn parhau i fod yn un o’r rhannau mwyaf diogel o Gymru.

Fe wnaethom gynnal ein Hunanasesiad diweddaraf yn ystod haf 2023, gan edrych ar ystod eang o dystiolaeth, adroddiadau rheoleiddio ac adborth helaeth o’r ymgynghoriad. Mae’n cadarnhau bod Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i berfformio’n well na’i statws ac yn gwneud defnydd da o’r adnoddau sydd ar gael iddo, er gwaethaf yr heriau a wynebwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf megis toriadau sylweddol yn y gyllideb a phandemig COVID-19.

Fodd bynnag, mae cyfleoedd i wella bob amser ac mae hunanasesu wedi ein helpu i nodi camau gweithredu allweddol a fydd yn helpu i ysgogi canlyniadau gwell i'r sir a'i dinasyddion. Mae'r rhain i'w gweld yn y Cynllun Gweithredu ar dudalennau 13-18 o'r Adroddiad. Byddwn yn cynnal ymgynghoriad pellach gyda dinasyddion, busnesau, Staff y Cyngor ac Undebau Llafur dros y misoedd nesaf i gasglu barn bellach ar sut y gallwn wella perfformiad ac edrychwn ymlaen at glywed eich barn.

Rhan allweddol o adolygu ein perfformiad yw’r cynnydd o ran cyflawni ein Hamcanion Llesiant yn 2021/22. Er gwaethaf yr heriau yr ydym wedi'u hwynebu, mae cynnydd wedi bod yn dda ac mae'r adroddiad hwn yn amlygu nifer o gyflawniadau allweddol ar draws pob un o'r wyth Amcan. Fframwaith Rheoli Perfformiad” pdf download below the existing download called “Adroddiad Hunanasesu 2022-23

Adroddiad Hunanasesu 2022-2023
Fframwaith Rheoli Perfformiad