Rydym yn credu bod gan holl bobl Ceredigion hawl i ddylanwadu ar ddyfodol y gwasanaethau a ddarperir yn eu sir. Mae’n hanfodol annog y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau, ynghyd â sefydliadau cynrychioliadol a chymunedol a phartneriaid eraill ym mhob sector, i ymgysylltu.

Mae ymgysylltu â’r gymuned yn grymuso dinasyddion drwy roi cyfle iddynt roi gwybod i’r Cyngor am eu gweledigaeth nhw ar gyfer eu cymunedau a’u cymdogaethau, ac am yr hyn y mae ei eisiau a’i angen arnynt o ran y gwasanaethau a ddarperir. Mae hefyd yn eu galluogi i gydweithio â’r Cyngor i wireddu’u gweledigaeth a gwella’u cymunedau, a thrwy hynny, gwella ansawdd eu bywydau. Yn gyffredinol, mae ymgysylltu’n gwella’r gwaith o gynllunio a phenderfynu. Yn ogystal â’n helpu i wella ansawdd ein gwasanaethau, bydd ymgysylltu effeithiol yn gwella’r modd yr ydym yn cyfathrebu ac yn cydweithio â’r sefydliadau sy’n bartneriaid i ni.

Mae ymgysylltu hefyd yn ddull y gall y Cyngor ei ddefnyddio i roi gwybod i bobl leol am yr hyn y mae’n ei wneud, y gwasanaethau y gall eu darparu a’r rheini na all eu darparu, a sut y mae’n pennu’i flaenoriaethau a’i bolisïau.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i ymgysylltu â thrigolion, defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid allweddol eraill. Mae’r Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi hwn, ynghyd â’r Cynllun Gweithredu, yn rhoi arweiniad a chanllawiau corfforaethol i aelodau etholedig a swyddogion y Cyngor i sicrhau bod ymgysylltu wrth galon gwaith y Cyngor a bod y gweithgareddau ymgysylltu o safon gyson uchel.

Adroddiad Blynyddol Ymgysylltu a Chyfranogi 2022/23

Adroddiad Monitro hanner blwyddyn 2023

Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi Cyngor Sir Ceredigion Mai 2022

Gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd Egwyddorion Cenedlaethol ar yng Nghymru