​Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ymrwymo i leihau carbon drwy gyflogi Rheolwr Rhaglen Lleihau Carbon ac Ynni cyntaf yr Awdurdod Penodwyd.

BethanBethan Lloyd Davies i'r swydd ar ddechrau mis Awst, ond bu'n gweithio i'r awdurdod ers ychydig dros wyth mlynedd.

Rhoddodd ei swydd flaenorol o fewn yr awdurdod wybodaeth fanwl o faterion yn ymwneud ag ynni, technoleg a deddfwriaeth, yn ogystal â phrofiad o fonitro ac adrodd am ynni. Bydd y profiad blaenorol hwn yn ogystal â'i brwdfrydedd am leihau carbon yn ei galluogi i gyflawni ei rôl newydd yn llwyddiannus. Cyfrifoldeb y Rheolwr Ynni fydd cynllunio, rheoleiddio a monitro'r defnydd o ynni o fewn yr awdurdod, drwy weithredu polisiau newydd a newidiadau i wella effeithlonrwydd ynni.

'Mae newidiadau i reoliadau adeiladu a chynnydd mewn deddfwriaeth a Chyfarwyddebau Ewropeaidd ynglŷn â gollyngiadau wedi cynyddu'r angen i sefydliadau ddatblygu strategaethau cynaladwyedd rheoli carbon', esboniodd Bethan.

Ychwanegodd : 'Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cydnabod pwysigrwydd newid hinsawdd a'r effaith tymor hir a gaiff ar gymunedau a'r amgylchedd. Fel 'sefydliad 'cyfrifol', mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i leihau ei ôl troed carbon, a fydd yn fanteisiol i'r Awdurdod a'r gymuned ehangach drwy leihau gollyngiadau CO2 gan hefyd arbed ar gost ynni.'

Yn ystod y misoedd nesaf, mae'r awdurdod yn bwriadu diweddaru ei Gynllun Rheoli Carbon, sydd yn cynnwys adeiladau annomestig, teithio busnes, goleuadau stryd a cherbydau fflŷd. Bydd y Rheolwr Ynni yn chwarae rôl hanfodol yn y broses hon.

'Mae hwn yn gyfle delfrydol i edrych ar ein sefyllfa bresennol a chofnodi'r gwaith da a gyflawnwyd hyd yma yn cyflwyno mesurau i leihau ein hôl troed carbon, e.e. gosod AMR, astudiaethau dichonolrwydd biomass, PV ysgolion, rhaglenni inswleiddio llofftydd, a gosod boeleri newydd ac ati. Bydd hyn yn ein galluogi i osod targedau newydd a gweithredu strategaethau a fydd yn helpu ni i gyrraedd ein nod o symud ymlaen', meddai Bethan.

Meddai'r Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet Trafnidiaeth, Gwastraff a Rheoli Carbon:

'Rwyf wrth fy modd â'r penodiad newydd hwn. Mae pobl Ceredigion wedi bod ar flaen y gad ers rhai blynyddoedd o ran cynaladwyedd a'r amgylchedd, ac mae'r Cyngor am adlewyrchu hynny yn ei bolisïau a'i arferion gwaith. Gall ymddygiad cynghorau lleol gael effaith fawr ar allyriadau carbon. Wrth benodi Rheolwr Ynni a Lleihau Carbon, mae'r Cyngor yn ymrwymo i fod yn un o'r awdurdodau lleol mwyaf blaenllaw yn y maes, a byddwn hefyd yn chwilio am ffyrdd eraill o leihau ein hôl troed carbon.'

Bu sawl newid cadarnhaol o fewn yr awdurdod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda ffurfio'r Grŵp Rheoli Carbon a hefyd penodi i'r swydd newydd hon. Mae'r awdurdod eisoes wedi nodi'r angen i weithredu rhaglen newid ymddygiad o fewn yr awdurdod, a fydd yn ein helpu i gyflawni ein nod a bydd yn cyd-fynd â'r gwaith da a'r ymrwymiad i leihau carbon sydd yn bodoli o fewn ein hawdurdod.

Cynllun Rheoli Carbon - Mawrth 2019