Datganiad Blynyddol Atal Caethwasiaeth 2019-20

Ni fydd Cyngor Sir Ceredigion yn caniatáu caethwasiaeth fodern na masnachu pobl yn ein sefydliad nac yn ein cadwyni cyflenwi.

Byddwn hefyd yn sicrhau bod gennym systemau ar waith i sicrhau cyflogaeth foesegol yn ein cadwyni cyflenwi.

Mabwysiadwyd ein Polisi Caethwasiaeth Fodern cyntaf yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Rhagfyr 2017. Mae’r datganiad hwn yn amlinellu’r camau yr ydym wedi eu cymryd i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl ac i hyrwyddo cyflogaeth foesegol a thryloywder yn ein cadwyni cyflenwi. Mae ein cynllun gweithredu ar ‘Atal Caethwasiaeth a Chyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi’ yn nodi sut y byddwn yn gwneud hyn. Rydym hefyd wedi penodi'r Cynghorydd Lyndon Lloyd yn Hyrwyddwr Atal Caethwasiaeth Fodern.

Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu gwasanaethau cyhoeddus dwyieithog cynaliadwy sy’n rhoi gwerth am arian er mwyn cynnal economi gref, amgylchedd iach a hyrwyddo lles ein pobl a’n cymunedau, (Strategaeth Gorfforaethol Cyngor Sir Ceredigion).

Ein Polisi ar Gaethwasiaeth Fodern

Mae Polisi Caethwasiaeth Fodern Cyngor Sir Ceredigion yn mabwysiadu dull integredig sy’n dwyn ynghyd meysydd allweddol diogelu, cymorth polisi, adnoddau dynol, caffael ac argyfyngau sifil posibl. Mae Polisi Atal Caethwasiaeth Cyngor Sir Ceredigion yn bodloni gofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi, a hefyd yn cyfeirio at y prosesau a’r cyfrifoldebau diogelu dan Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Rydym wedi hysbysu Llywodraeth Cymru ein bod yn gwbl ymrwymedig i gydymffurfio â’r Cod.

Ein prosesau ar gyfer mynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl a darparu cymorth i oroeswyr

Mae gennym brosesau ar waith i gefnogi’r rheini sydd wedi goroesi Caethwasiaeth Fodern

  • Byddwn yn rhoi gwybod i’r Swyddfa Gartref am ddioddefwyr posib
  • Oherwydd ein bod yn Ymatebwr Cyntaf dan Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015, byddwn yn cyfeirio dioddefwyr posib at y Mecanwaith Cyfeirio Cenedlaethol (NRM).
  • Byddwn yn cyfeirio pob plentyn sydd wedi dioddef at Eiriolwyr Masnachu Plant Annibynnol

Ein Cadwyni Cyflenwi

Byddwn yn cynnwys copi o’n Polisi Caethwasiaeth Fodern a chyfres o gwestiynau am gyflogaeth foesegol ym mhob tendr.

Byddwn yn nodi meysydd risg uchel mewn contractau cyfredol ac yn anfon y Cod Cyflogaeth Foesegol at ein partneriaid.

Byddwn yn disgwyl i’n cyflenwyr ymrwymo i’r Cod.

Ein Harferion Cyflogi

Rydym wedi mabwysiadu’r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Byddwn yn sicrhau nad ymgymerir â hunangyflogaeth ffug ac na chaiff contractau dim oriau eu defnyddio’n annheg.

Mae ein polisïau yn sicrhau y gall staff ymuno ag undebau llafur o’u gwirfodd.

Hyfforddiant

Byddwn yn sicrhau bod hyfforddiant ar gael i staff. Yn 2017/18 cynhaliwyd dwy sesiwn Codi Ymwybyddiaeth ynghylch Caethwasiaeth Fodern ar gyfer ein staff.

Polisi Caethwasiaeth Fodern

Datganiad Blynyddol Atal Caethwasiaeth 2019 - 2020

Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi