Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Ein Hamcanion Llesiant Corfforaethol Mesurau Perfformiad - 2024/25

Croeso i’n trosolwg o fesurau perfformiad ein Hamcanion Llesiant Corfforaethol ar gyfer 2024/25. Ei nod yw darparu crynodeb o'n perfformiad ar draws ystod o wasanaethau gan ddefnyddio set o fetrigau safonol.

Mae ein Strategaeth Gorfforaethol 2022-27 yn dangos sut rydym yn cefnogi ac yn hyrwyddo cynaliadwyedd a lles dinasyddion Ceredigion drwy ein gweledigaeth hirdymor a'n hamcanion Llesiant Corfforaethol. Mae Amcanion Llesiant Corfforaethol y Cyngor yn galluogi darparu gwasanaethau sy’n gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol dinasyddion a chymunedau Ceredigion. Nodwyd yr Amcanion drwy ymgysylltu â'r cyhoedd, Asesiad Llesiant Lleol Ceredigion ac uchelgeisiau'r weinyddiaeth wleidyddol.

Dyma ein hamcanion Lles Corfforaethol:

  1. Hybu’r economi, cefnogi busnesau a galluogi cyflogaeth
  2. Creu cymunedau gofalgar ac iach
  3. Darparu'r dechrau gorau mewn bywyd a galluogi pobl o bob oed i ddysgu
  4. Creu cymunedau cynaliadwy a gwyrdd sydd wedi’u cysylltu’n dda â’i gilydd

Cliciwch ar bob un i weld y mesurau perfformiad cysylltiedig sy’n dangos cynnydd eleni wrth gyflawni’r Strategaeth Gorfforaethol.

Beth yw mesurau perfformiad lleol?

Mae mesurau Perfformiad Lleol yn ddangosyddion penodol a ddefnyddiwn i asesu effeithlonrwydd, effeithiolrwydd ac ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gennym ni. Mae'r mesurau hyn yn cwmpasu ystod eang o'n gwasanaethau, gan gynnwys addysg, gwasanaethau cymdeithasol, tai a rheolaeth amgylcheddol. Trwy werthuso'r metrigau hyn, gallwn gael mewnwelediad i ba mor dda yr ydym yn bodloni anghenion a disgwyliadau ein cymunedau.

Mae’r data ar gyfer pob Mesur Perfformiad yn dangos y targed ar gyfer 2024/ a osodwyd gennym i’n hunain o’i gymharu â’r sefyllfa wirioneddol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Yna mae gan bob mesur statws coch, ambr neu wyrdd. Mesurau gwyrdd yw'r rhai sydd ar darged, mesurau ambr yw'r rhai sydd hyd at 15% oddi ar y targed ac mae coch yn fwy na 15% oddi ar y targed.

Mae’r rhan fwyaf o fesurau’n defnyddio cymhariaeth “Mwya’i gyd, gorau’i gyd” ond mae nifer o'n mesurau yn cyfeirio at fetrig lle po isaf yw'r gwerth, y gorau yw'r canlyniad. Mae hon yn sefyllfa lle mae lleihau nodwedd yn ddymunol e.e. nifer y gwaharddiadau fesul 1000 o ddisgyblion. Mae'r mesurau hyn yn cael eu nodi gan seren.

Pam mae'r mesurau hyn yn bwysig?

  • Tryloywder: Mae mesurau perfformiad yn hyrwyddo tryloywder, gan alluogi dinasyddion a rhanddeiliaid i weld sut rydym yn perfformio
  • Atebolrwydd: Mae'r mesurau hyn yn ein gwneud yn atebol am ein perfformiad, gan annog gwelliant parhaus a darparu gwasanaeth effeithlon
  • Gwneud Penderfyniadau Gwybodus: Trwy ddeall data perfformiad, gallwn wneud penderfyniadau mwy gwybodus i wella ansawdd gwasanaeth, profiad y cwsmer a mynd i'r afael â meysydd sydd angen eu gwella
  • Ymgysylltu â'r Gymuned: Mae gwybodaeth hygyrch am berfformiad yn grymuso dinasyddion a rhanddeiliaid i ymgysylltu â ni, gan feithrin dull cydweithredol o wella gwasanaethau cyhoeddus.

I weld ystadegau perfformiad pellach, ewch i'n Canlyniadau Proffil Perfformiad Awdurdodau Lleol. Mae Proffil Perfformiad Awdurdodau Lleol yn cynnwys detholiad o fesurau perfformiad allweddol a luniwyd gan Data Cymru i gefnogi meincnodi perfformiad awdurdodau lleol.

Gobeithiwn y bydd y dogfennau hyn yn adnodd gwerthfawr ar gyfer deall ein perfformiad ac effaith ein gwasanaethau ar ein cymunedau.