Mae Cyngor Sir Ceredigion, fel Awdurdod Lleol cyfrifol yn cynnal ymgynghoriadau a’r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill ar ystod eang o faterion. Mewn llawer o achosion wrth gynnal ymgynghoriadau mae’n ofynnol i ni brosesu data personol. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi sut ac o dan ba amgylchiadau y mae presesu o’r fath yn cymryd lle.

Y dibenion ry’m ni’n defnyddio eich data personol

Mewn sawl achos, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Awdurdod gynnal ymgynghoriadau. Mae hyn yn ein galluogi i fod yn sicr ein bod wedi ystyried ystod eang o safbwyntiau wrth wneud penderfyniadau a fydd yn effeithio ar y cyhoedd.

Lle mae'n ofynnol i ni ymgynghori yn ôl y gyfraith i brosesu eich gwybodaeth, rydym yn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau statudol sydd wedi’i nodi yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Lle mae'n ofynnol i ni ymgynghori yn ôl y gyfraith a data categori arbennig yn cael ei brosesu, y sail gyfreithlon fydd Erthygl 9 2 Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (g) Mae prosesu yn angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd.

Bydd yr amodau prosesu er budd sylweddol yn gyhoeddus yn:

Ddibenion statudol a llywodraethol, a chyfle neu driniaeth gyfartal.

Deddfau neu reolau cyfraith y dibynnir arnynt:

Deddf Cydraddoldeb 2010.

Lle nad yw'n ofynnol i ni ymgynghori yn ôl y gyfraith, y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu fydd caniatâd, a lle prosesir data categori arbennig, y sail gyfreithlon fydd caniatâd penodol. Pan fyddwn yn dibynnu ar gydsyniad ar gyfer prosesu, gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg.

Beth os nad ydych yn darparu data personol?

Os na fyddwch yn darparu gwybodaeth sydd ei angen arnom pan ofynnwn amdano, gallai hyn olygu na fyddwn yn gallu ystyried eich barn yn y broses o wneud penderfyniadau.

Pa fath o wybodaeth rydym yn ei ddefnyddio?

Efallai y byddwn yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi i ddarparu'r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Dynodwyr personol sylfaenol
  • Cyfeiriad
  • Cyfeiriad e-bost
  • Cyfeiriad IP (os ydych yn cwblhau ar-lein)
  • Data personol rydych chi'n ei ddatgelu i ni mewn atebion testun rhydd i gwestiynau ymgynghori
  • Gwybodaeth am gydraddoldeb

Ydyn ni'n defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

Er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn, yr unig fodd y casglwn wybodaeth data personol amdanoch yw’n uniongyrchol wrthych chi ac nid ydym yn cael gwybodaeth amdanoch wrth unrhyw ffynonellau arall.

Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Gyda phwy y gellir rhannu eich gwybodaeth (yn fewnol ac yn allanol)?

Mae yna sefyllfaoedd penodol lle mae'n bosibl y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, fel:

  • Lle mae'n ofynnol i'r Cyngor ddarparu gwybodaeth yn ôl y gyfraith
  • Pan fydd angen datgelu'r wybodaeth er mwyn atal neu ganfod trosedd
  • Lle mae datgelu er budd hanfodol y person dan sylw