Bydd yr wybodaeth a gasglwn ni amdanoch chi’n cael ei defnyddio at ddiben(ion):

 

  • Cyfrifo’ch atebolrwydd cywir o ran y Dreth Gyngor a/neu Ardrethi Annomestig
  • Cyflawni rôl Cyngor Sir Ceredigion o ran ymarfer awdurdod swyddogol neu fudd cyhoeddusY sail gyfreithiol dros brosesu’ch gwybodaeth yw:
  •  

 

  • Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac 1992
  • Atal neu ganfod trosedd, gan gynnwys ymhonni’n anwir yn unol â Deddf Twyll 2006

Os na fyddwch chi’n rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan ofynnwn ni amdani, mi all olygu eich bod chi’n atebol am dalu’r lefel anghywir o Dreth Gyngor a/neu Ardrethi Annomestig.

Mi allwn gasglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:


Enw a/neu enw’r busnes;

Cyfeiriad;

Manylion deiliadaeth;

Rhif Yswiriant Gwladol;

Rhif ffôn;

Cyfeiriad e-bost;

Manylion banc/talu;

Cyfansoddiad eich teulu;

Eich amgylchiadau cymdeithasol;

Eich amgylchiadau ariannol;

Manylion cyflogaeth;

Gwybodaeth am eich iechyd;

Unrhyw wybodaeth berthnasol arall er mwyn prosesu unrhyw ryddhad neu ostyngiad

I ddarparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrthoch chi, ond mi allwn ni hefyd dderbyn gwybodaeth o’r ffynonellau canlynol:

 

Adrannau eraill y Cyngor;

Asiantaethau eraill y Llywodraeth megis yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyllid a Thollau EM, yr Heddlu a Chynghorau eraill;

Asiantaethau Credyd;

Cyflogwyr.

 

Mae’r mathau o ddata personol a dderbynnir fel uchod.

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Mi allwn ni rannu’ch gwybodaeth chi gyda’r canlynol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

 

  • Adrannau eraill y Cyngor;
  • Asiantaethau eraill y Llywodraeth megis Cynghorau eraill, Cyllid a Thollau EM, yr Heddlu, Menter Twyll Cenedlaethol, Swyddfa Archwilio Cymru;
  • Sefydliadau sy’n bartneriaid megis Cyngor ar Bopeth, Age Cymru neu unrhyw sefydliad arall sy’n gweithredu ar eich rhan;
  • Asiantaethau Casglu a’r Llys Sirol;
  • Partneriaid Cymorth Meddalwedd TG – bydd unrhyw fynediad ar gyfer datrys problemau technegol gyda’n systemau’n unig, a dim ond data sy’n gysylltiedig â hynny a welirMae yna sefyllfaoedd penodol eraill yn ogystal lle gall fod angen inni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, megis:
  •  


• Pan fydd hi’n ofynnol i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn ôl y gyfraith
• Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd
• Pan fydd y datgelu o fudd hanfodol i’r unigolyn dan sylw