Defnyddir y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch at ddiben(ion) darparu gwasanaeth, gan gynnwys:

  • gwneud taliadau i unigolion a darparwyr gwasanaeth
  • casglu debyd uniongyrchol er mwyn setlo anfonebau a roddir i unigolion am wasanaethau a ddarparir gan neu ar ran Cyngor Sir Ceredigion
  • Cyflogres
  • Delio â hawliadau
  • Caffael
  • Asesiadau ariannol
  • dyfarnu grantiau
  • cynnal ein cyfrifon a’n cofnodion ein hunain

 

Mae’r sail gyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth fel y nodir ym mharagraffau 1 b) ac 1 c) Erthygl 6 Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR DU), fel y nodir isod:

  • Tasg gyhoeddus – “…mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu er mwyn cyflawni awdurdod swyddogol sydd gan y rheolydd”.

Contract – “…mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni contract y mae gwrthrych y data yn barti iddo neu er mwyn cymryd camau ar gais gwrthrych y data cyn ymrwymo i gontract.”

Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, efallai na fyddwn yn gallu darparu’r gwasanaeth.

Efallai y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:

Efallai y caiff y mathau canlynol o ddata personol eu sicrhau, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:
Enw;

Cyfeiriad;

Dyddiad geni;

Rhyw;

Cyfeirnod unigryw;

Rhif ffôn;

Cyfeiriad e-bost;

Manylion banc/talu;

Cyfansoddiad eich teulu;

Eich amgylchiadau cymdeithasol;

Eich amgylchiadau ariannol;

Manylion cyflogaeth ac addysg;

Delweddau/ffotograffau;

Rhif cofrestru cerbyd;

Gwybodaeth am eich iechyd;

Euogfarnau troseddol a throseddau;  ac ati.

Llofnod

Eich amgylchiadau ariannol

Manylion addysg a chyflogaeth

Manylion hyfforddi

Aelodaeth sefydliadau proffesiynol

Achrediadau

Geirda

Delweddau/ffotograffau

Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth gennych chi yn uniongyrchol, ond rydym yn cael gwybodaeth gan y ffynonellau canlynol hefyd:

  • Meysydd gwasanaeth eraill y Cyngor
  • Asiantaethau gwirio credyd
  • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM
  • Banciau a chymdeithasau adeiladu
  • Llywodraeth Ganolog ac Awdurdodau Lleol eraill
  • Broceriaid Yswiriant a Chwmnïau Yswiriant
  • Cynghorwyr proffesiynol gan gynnwys cwmnïau cyfreithiol, cyfreithwyr a bargyfreithwyr
  • Canolwyr

Ffynonellau gwybodaeth ar y we, er enghraifft GwerthwchiGymru;  Tŷ'r Cwmnïau

Efallai y trosglwyddir eich gwybodaeth i wlad dramor trwy ei chyhoeddi yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU).


Byddwn yn gwneud hyn er mwyn bodloni Rheoliadau Caffael UE mewn perthynas â Hysbysiadau Dyfarnu Contract.  Dim ond i ddata sy’n ymwneud ag ymgeiswyr/cyflenwyr llwyddiannus mewn perthynas â chyfleoedd contract a hysbysebir yn OJEU y mae hwn yn berthnasol.

Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda’r derbynwyr canlynol, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Meysydd gwasanaeth eraill y Cyngor
  • Asiantaethau gwirio credyd
  • HMCTS (Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM)
  • Pob banc a chymdeithas adeiladu
  • Llywodraeth Ganolog ac Awdurdodau Lleol eraill
  • Broceriaid Yswiriant a Chwmnïau Yswiriant
  • Cynghorwyr proffesiynol gan gynnwys cwmnïau cyfreithiol, cyfreithwyr a bargyfreithwyr
  • Canolwyr
  • Ffynonellau gwybodaeth ar y we, er enghraifft GwerthwchiGymru; Tŷ'r Cwmnïau.
  • Canolwyr

 

Ceir sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi efallai, megis:
• Pan fydd gofyn i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn unol â’r gyfraith
• Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth er mwyn atal neu ddatrys trosedd

  • Pan fydd ei datgelu er budd hanfodol yr unigolyn dan sylw.