Bydd yr wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch chi yn cael ei defnyddio at y dibenion canlynol:

 

  • gwirio eich hawl i gofrestru i bleidleisio
  • cynnal y Gofrestr Etholiadol, gan gynnwys pleidleiswyr trwy ddirprwy a phleidleiswyr trwy'r post
  • darparu rhestr o bleidleiswyr cymwys at ddibenion canfasio i ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol sy'n ymgeisio mewn etholiadau

 

Os byddwch yn llenwi eich ffurflen Cofrestru Etholiadol Unigol ar-lein, bydd y data y byddwch yn eu cyflwyno, er mwyn gwirio eich hunaniaeth, yn cael eu prosesu gan y Gwasanaeth Digidol - Cofrestru Etholiadol Unigol, a reolir gan Swyddfa'r Cabinet. Yn rhan o'r broses hon, bydd eich data yn cael eu rhannu â'r Adran Gwaith a Phensiynau a chyflenwyr Swyddfa'r Cabinet, sy'n broseswyr data i'r Gwasanaeth Digidol - Cofrestru Etholiadol Unigol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth trwy ddilyn y ddolen hon: https://www.registertovote.service.gov.uk/register-to-vote/privacy.

 

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol 2013. Mewn achosion o baru data, y sail gyfreithiol yw i gydymffurfio â'n rhwymedigaeth i gynnal cofrestr sydd mor gyflawn â phosib o dan Reoliad 23 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001.

Os na fyddwch yn cyflwyno'r wybodaeth y mae arnom ei hangen pan fyddwn yn gofyn amdani, ni allwn eich cofrestru yn bleidleisiwr. Gallai hyn hefyd arwain at ddirwy o hyd at £1,000.00 am fod darparu'r wybodaeth yn ofyniad cyfreithiol.

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o wybodaeth bersonol amdanoch chi, i'w rhoi ar y Gofrestr Etholiadol:

 

  • Enw
  • Cyfeiriad

 

Rydym hefyd yn casglu'r wybodaeth ganlynol at ddibenion gweinyddu:

 

  • Dyddiad geni
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Cenedligrwydd
  • Cyfansoddiad eich teulu

Er mwyn cynnal y gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol gennych chi, ond rydym hefyd yn cael gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:

 

  • Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
  • Y Comisiwn Etholiadol
  • Cartrefi Preswyl/Nyrsio
  • Prifysgolion a cholegau lleol
  • Swyddfa'r Cabinet Digidol

 

Rydym hefyd yn cael gwybodaeth o'r gwasanaethau canlynol gan Gynghorau:

  • Treth y Cyngor
  • Budd-daliadau Tai

 

Cesglir y mathau canlynol o ddata personol:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Dyddiad geni

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu hwnt i'r Deyrnas Unedig.

Gall unrhyw sefydliad neu aelod o'r cyhoedd weld y Gofrestr Etholiadol Lawn, a gall unrhyw un brynu'r Gofrestr Agored ddiwygiedig y mae modd i chi eithrio eich hun ohoni.

 

Yn unol â Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, dim ond yr unigolion a'r sefydliadau canlynol sy'n gymwys i gael copi o'r gofrestr lawn o etholwyr, ar gais:

 

  • cynrychiolwyr etholedig
  • ymgeiswyr
  • asiant i restr plaid sy'n ymgeisio mewn etholiad i Senedd Ewrop, neu etholiad mewn etholaeth ranbarthol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • pleidiau gwleidyddol cofrestredig, gan gynnwys sefydliadau trydydd parti cydnabyddedig
  • Comisiynwyr Heddlu a Throseddu
  • pleidiau etholaethau lleol
  • deiliaid swyddfeydd etholedig perthnasol mewn perthynas â Pharagraff 1(8), Atodlen 7, Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda
  • cyfranogwyr a ganiateir mewn perthynas ag Adran 105(1) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda
  • y cyngor a benododd y Swyddog Cofrestru Etholiadol
  • unrhyw awdurdod lleol arall y mae ei ardal yn gyfrifoldeb i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol, yn rhannol neu'n llwyr (nid yw hyn yn cynnwys cynghorau plwyf na chymuned)
  • unrhyw heddlu ym Mhrydain Fawr
  • y Gwasanaeth Cenedlaethol Cudd-wybodaeth Droseddol
  • yr Uned Droseddau Genedlaethol
  • Sefydliad Technoleg Gwybodaeth yr Heddlu
  • unrhyw gorff o gwnstabliaid a sefydlwyd o dan ddeddf
  • y Gwasanaeth Diogelwch, Pencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a'r Gwasanaeth Cudd-wybodaeth
  • gwasanaeth archifau llyfrgelloedd cyhoeddus neu awdurdodau lleol y mae eu cylch gwaith yn cynnwys yr ardal gofrestru
  • Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig
  • Cynghorau Tref a Chymuned
  • Y Comisiwn Etholiadol
  • Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
  • Darparwr meddalwedd (Democracy Counts)
  • Argraffydd allanol (Adare SEC)

 

Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth sy’n cael ei dal ar y Gofrestr Lawn i'r canlynol:

 

Yn fewnol:

  • gwasanaethau'r Cynghorau sydd angen gwirio enwau a chyfeiriadau at ddibenion busnes.
  • Mae'r Gwasanaethau Etholiadol yn meddu ar gopïau o'r Gofrestr Lawn, a gallent gyflenwi copïau sy'n hŷn na 10 mlwydd oed at ddibenion ymchwil o dan rai amgylchiadau.Gwneir gwaith paru data yn rheolaidd mewn perthynas â’r myfyrwyr sydd wedi cofrestru â Phrifysgol Aberystwyth, a hynny i gydymffurfio â'n rhwymedigaeth i gynnal cofrestr gywir o dan Reoliad 23 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001.