Rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol fel y gallwn gydymffurfio gyda’n dyletswyddau cyfreithiol wrth baratoi, gweithredu a monitro’r Cynllun Datblygu Lleol ac wrth baratoi’r Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai, fel sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth cynllunio.

 

Mae angen prosesu eich data er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd ac er mwyn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol dan y ddeddfwriaeth ganlynol:

 

  • Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
  • Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990
  • Deddf Cynllunio (Cymru) 2015

Os na fyddwch yn darparu’r wybodaeth, ni fyddwch yn gallu cymryd rhan yn y gwaith o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol, gweithredu ei bolisïau a monitro ei weithrediad a pharatoi’r Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai

Rydym yn casglu’r wybodaeth ganlynol at ddibenion gweinyddu:

 

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhifau ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Unrhyw fanylion cyswllt eraill
  • Y wybodaeth uchod ar gyfer unrhyw asiant/ymgynghorydd sy’n gweithredu ar eich rhan.

 

Ynghyd â’r uchod, rydym yn casglu’r wybodaeth ganlynol at ddibenion gweinyddol er mwyn gweithredu Polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol:

 

  • Cyfansoddiad eich teulu
  • Oedran
  • Gwybodaeth ariannol (megis gwybodaeth am gyflog, argaeledd morgais a gwybodaeth am y darparwr)

 

 

Rydym yn casglu’r data canlynol hefyd, nad yw’n ddata personol, at ddibenion gweinyddol:

 

  • Math o berchnogaeth (os yw hynny’n berthnasol)
  • Perchnogaeth tir
  • Gwerthoedd Tir ac Eiddo, pan fydd angen i ni asesu hyfywedd neu gymhwystra datblygiad (ar gyfer tai fforddiadwy)
  • Manylion ariannol sy’n ymwneud â hyfywedd safleoedd datblygu, pan fyddant yn ymwneud â llofnodi cytundebau cyfreithiol er mwyn talu cyfraniadau ariannol i’r Cyngor

Unrhyw wybodaeth arall sy’n berthnasol i safle, megis cyfyngiadau, mynediad, seilwaith ac ati

Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth gennych chi yn uniongyrchol, ond byddwn yn cael gwybodaeth gan y ffynonellau canlynol hefyd:

 

 

  • Rheoli Datblygu, Rheoli Adeiladu, Treth Gyngor, Gwasanaethau Etholiadol, Ystadau

 

Caiff y mathau canlynol o ddata personol ei sicrhau:

 

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • E-bost
  • Unrhyw fanylion cyswllt eraill

 

Rydym yn casglu’r canlynol gan y ffynonellau hyn hefyd, nad yw’n ddata personol

  • Gwerthoedd Tir ac Eiddo, pan fydd angen i ni asesu hyfywedd neu gymhwystra datblygiad (ar gyfer tai fforddiadwy)
  • Gwybodaeth ariannol sy’n ymwneud â hyfywedd safleoedd datblygu, pan fyddant yn ymwneud â llofnodi cytundebau cyfreithiol er mwyn talu cyfraniadau ariannol i’r Cyngor
  • Unrhyw wybodaeth arall sy’n berthnasol i safle, megis cyfyngiadau, mynediad, seilwaith ac ati.

Ni throsglwyddir eich gwybodaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Mae gennym ddyletswydd i ddiogelu’r cronfeydd cyhoeddus yr ydym yn eu gweinyddu ac efallai y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a ddarparir gennych chi at ddibenion archwilio ac adrodd.

 

Byddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau sy’n ofynnol yn unol â’r gyfraith ac efallai y byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy’n gyfrifol am ddatrys/atal twyll neu droseddu neu archwilio/gweinyddu cronfeydd cyhoeddus er mwyn sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a’i wario yn y ffordd fwy priodol a chost-effeithiol.  Er mwyn cyflawni hyn, efallai y rhennir gwybodaeth gydag adrannau mewnol eraill o fewn Cyngor Sir Ceredigion ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd partïon at ddibenion marchnata.

 

Bydd eich data yn ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser, a dim ond y wybodaeth bersonol sy’n ofynnol fel rhan o’r broses o gynhyrchu’r CDLl neu ymateb i ymholiadau neu weithredu’r CDLl y byddwn yn ei chasglu.