Defnyddir y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch at ddiben(ion) asesu eich angen am dŷ ac er mwyn darparu tŷ i chi sy’n diwallu eich anghenion. Gellir defnyddio’r wybodaeth y byddwn yn ei chasglu yn eich cofnod ar y gofrestr neu’r cofrestrau canlynol:
- Cofrestr Tai Cyffredin
- Cofrestr Tai Fforddiadwy
- Cofrestr Tai Hygyrch
- Cofrestr Tai Pobl Hŷn
- Dewisiadau Tai
- Er mwyn asesu’r angen am lety Teithwyr yn y Sir
Yn ogystal, gellir defnyddio gwybodaeth i’ch cynorthwyo os oes gennych chi ymholiadau ynghylch digartrefedd.
Y saith gyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth yw er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu ar gyfer swyddogaethau swyddogol neu er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith, gan gynnwys y ddeddfwriaeth a restrir isod:
- Deddf Tai (Cymru) 2014
Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn arwain atom yn methu darparu ein gwasanaethau i chi, ac yn methu delio gyda’ch cais yn gyfan gwbl, a allai arwain at ganlyniad aflwyddiannus
Rydym yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn...
Efallai y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:
Enw;
Cyfeiriad;
Dyddiad geni;
Rhif Yswiriant Gwladol
Rhyw;
Cyfeirnod unigryw;
Rhif ffôn;
Cyfeiriad e-bost;
Manylion banc/talu;
Cyfansoddiad eich teulu;
Eich amgylchiadau cymdeithasol;
Eich amgylchiadau ariannol;
Manylion cyflogaeth ac addysg;
Eich anghenion tai;
Delweddau/ffotograffau;
Gwybodaeth am eich iechyd;
Eich cefndir ethnig neu hiliol;
Credoau crefyddol neu athronyddol;
Safbwyntiau Gwleidyddol
Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu’ch cyfeiriadedd rhywiol;
Data genetig;
Data biometrig;
Euogfarnau troseddol a throseddau; ac ati.
Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth gennych chi yn uniongyrchol, ond rydym yn cael gwybodaeth gan y ffynonellau canlynol hefyd:
Mewnol
Gofal Cymdeithasol
Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid
Cyllid (e.e. Budd-dal Tai/Treth Gyngor)
Addysg
Tai Sector Preifat (e.e. Grantiau/ Trwsio)
Tîm Strategaeth Tai
Allanol
Unrhyw gorff cyhoeddus perthnasol neu Landlord Cymdeithasol Cofrestredig
Heddlu
Gwasanaeth prawf
Gofal Sylfaenol
Gofal Eilaidd
Gofal Iechyd Amgen
The Wallich
Cymdeithas Gofal
Y Groes Goch
Unrhyw Sefydliad Trydydd Sector sy’n cael cyswllt gydag unigolyn ar y ddwy ochr
Cymorth i Fenywod
Landlordiaid Preifat
Asiantau Eiddo
Cyngor Sir Caerdydd fel yr Awdurdod Trwyddedu dynodedig ar gyfer Rhentu Doeth Cymru
Unrhyw gorff cyhoeddus perthnasol neu Landlord Cymdeithasol Cofrestredig
Heddlu
Gwasanaeth prawf
Gofal Sylfaenol
Gofal Eilaidd
Gofal Iechyd Amgen
The Wallich
Cymdeithas Gofal
Y Groes Goch
Unrhyw Sefydliad Trydydd Sector sy’n cael cyswllt gydag unigolyn ar y ddwy ochr
Cymorth i Fenywod
Landlordiaid Preifat
Asiantau Eiddo
Data dienw i ddatblygwyr
Prosesir gwybodaeth dan ddarpariaethau Cytundeb WASPI ar gyfer y Gofrestr Tai Cyffredin.
Ceir sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi efallai, megis:
• Pan fydd gofyn i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn unol â’r gyfraith
• Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth er mwyn atal neu ddatrys trosedd
- Pan fydd ei datgelu er budd hanfodol yr unigolyn dan sylw