Rydym yn casglu a defnyddio’ch gwybodaeth bersonol er mwyn inni allu gweinyddu, a’ch darparu chi â chyrsiau Dysgu Oedolion a’r Gymuned.

Y sail gyfreithiol dros brosesu’ch gwybodaeth yw er mwyn cydymffurfio â’n dyletswydd dan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 a Pholisi Dysgu Oedolion yng Nghymru 2017 Llywodraeth Cymru, i ddarparu cyfleusterau addysg addas ar gyfer pobl dros 16 oed.

Y sail dros brosesu data personol categori arbennig (sensitif) amdanoch chi yw budd cyhoeddus sylweddol, ar sail Deddf Diogelu Data 2018 Atodlen 1 Rhan 2, ‘Amodau Budd Cyhoeddus Sylweddol’ 6 (2a) a 12 (1).

Mewn perthynas â’n darpariaeth o ohebiaeth ddigidol ar eich cyfer, mae’r prosesu’n digwydd ar sail eich cydsyniad chi.

Os na fyddwch chi’n rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn ni’n gofyn amdani, mi all olygu na allwch chi gofrestru ar gyfer ein cyrsiau. Mi all hefyd olygu na allwn ni gael y cyllid sydd ei angen arnoch oddi wrth Lywodraeth Cymru i’ch darparu â’r cwrs rydych am ei astudio. 

Rydym yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn:

  • Cyfenw
  • Enw(au) cyntaf
  • Cyfeiriad
  • Cod post
  • Rhif ffôn
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Rhyw
  • Cyfenw’n 16 oed
  • Dyddiad geni
  • Cenedligrwydd
  • Yr ysgol ddiwethaf ichi ei mynychu
  • Blwyddyn gadael ysgol
  • Rhif unigryw’r dysgwr (a grëwyd gan y Gwasanaeth Cofnodion Dysgu)
  • Troseddau ac euogfarnau ac ati.

Yn ogystal, ceir data amdanoch chi a ddiffinnir fel data categori arbennig. Mae darparu’r data hwn yn opsiynol a bydd yn cynnwys;

  • Ethnigrwydd
  • Math o anabledd
  • Cyflwr iechyd

Ar adeg cofrestru neu archebu lle ar gwrs, mae ein gwasanaeth yn gofyn bod negeseuon testun ac e-byst yn cael eu defnyddio ar gyfer gweinyddu a chyfathrebu, lle mae rhifau ffôn symudol a chyfeiriadau e-bost wedi’u darparu. Gallwch optio allan o’r trefniant hwn ar unrhyw adeg drwy gysylltu â staff y Ganolfan Ddysgu neu drwy e-bostio admin@dysgubro.org.uk.

I ddarparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu data personol oddi wrthoch chi’n uniongyrchol, ac nid ydym yn derbyn gwybodaeth amdanoch chi o unrhyw ffynhonnell arall.

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Rydym yn rhannu data personol pan fydd angen inni wneud hynny’n unig, ac rydym yn darparu’r lleiaf posib o ddata angenrheidiol ym mhob achos.

Rydym yn rhannu’ch gwybodaeth gyda:

  • Estyn, Arolygydd Ei Mawrhydi dros addysg a hyfforddiant yng Nghymru
  • Llywodraeth Cymru (at ddibenion cyllid)
  • Os ydych chi’n astudio tuag at gymhwyster neu gredydau, bydd angendarparu’ch data personol i’r corff dyfarnu perthnasol ar gyfer achrediad.

Rydym yn rhannu’ch gwybodaeth yn fewnol gyda:

  • Ein tiwtoriaid o fewn y gwasanaeth