Mae gan Gyngor Sir Ceredigion ystod eang o ddyletswyddau, ac ymhlith y rhain mae cyfrifoldeb i ddiogelu cymunedau lleol rhag erydu arfordirol. Er mwyn sicrhau bod ein hadnoddau yn cael eu targedu’n gywir yn hyn o beth, mae’n ofynnol i ni ymgynghori â chymunedau lleol er mwyn deall eu hanghenion yn well a sicrhau y bydd y gymuned yn cael y budd mwyaf o’r cynlluniau amddiffyn a roddwn ar waith.

Er mwyn cynnal ein hymgynghoriad, byddwn yn anfon negeseuon drwy’r post ac yn cynnal arolwg ar-lein.

Bydd y wybodaeth a gasglwn amdanoch yn cael ei defnyddio at y dibenion canlynol:

 

Ein galluogi i gynnal ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer cynlluniau amddiffyn yr arfordir

 

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yw:

 

Tasg gyhoeddus (mae'n ofynnol i'r awdurdod lleol wneud trigolion yn ymwybodol o'r ymgynghoriad â'r gymuned mewn perthynas â'i gynigion)

 

Caniatâd (lle cesglir data personol drwy’r arolwg ar-lein)

 

Gallwch dynnu eich caniatâd i brosesu eich data ar gyfer yr arolwg yn ôl ar unrhyw adeg

Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn ni’n gofyn amdani, gall hyn olygu na fyddwn yn gallu ystyried eich barn mewn perthynas â’n cynlluniau amddiffyn yr arfordir

Efallai y byddwn yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch i ddarparu'r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

 

  • Manylion adnabod sylfaenol (enw, dyddiad geni)
  • Cyfeiriad
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost

Er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol gennych chi, ond rydym hefyd yn derbyn gwybodaeth gan y ffynonellau canlynol:

 

Rhestr Tir ac Eiddo Genedlaethol (a ddefnyddir i anfon negeseuon drwy’r post)

Bydd SurveyMonkey yn cadw eich data cyn i staff y Cyngor ei lawrlwytho. Mae SurveyMonkey yn cynnal y data ar weinyddion sydd wedi’u lleoli yn yr Unol Daleithiau yn unol â safonau fframwaith Privacy Shield

Fel rheol, ni fydd y data personol a roddwch i ni yn cael ei rannu gydag unrhyw wasanaeth arall o fewn Cyngor Sir Ceredigion, na gydag unrhyw drydydd parti y tu allan i’r sefydliad.

Fodd bynnag, mae sefyllfaoedd penodol lle mae’n bosibl y bydd yn ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:
• Pan fo’n ofynnol i'r Cyngor ddarparu'r wybodaeth yn ôl y gyfraith
• Pan fo angen datgelu'r wybodaeth er mwyn atal neu ganfod trosedd
• Pan fo datgelu’r wybodaeth er budd hanfodol y person dan syl