Defnyddir y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch at ddiben(ion):
- Gweinyddu ac Ymchwilio i gwynion a wneir yn erbyn y Cyngor.
- Gweinyddu ceisiadau a wneir dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
Mae angen prosesu data personol er mwyn galluogi’r Cyngor i gyflawni ei dasg gyhoeddus, a sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â’i rwymedigaethau statudol a pholisi. Mae’r polisïau a’r ddeddfwriaeth benodol y mae’r Gwasanaeth Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth yn delio gyda nhw yn gyson fel a ganlyn:
- Deddf Rhyddid Gwybodaeth, 2000
- Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, 2004
- Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru), 2019
- Deddf Diogelu Data, 2018
- Deddf Hawliau Dynol, 1998
- Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
- Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru), 2014
- Polisi Pryderon a Chwynion Cyngor Sir Ceredigion
- Siarter Cwsmeriaid Cyngor Sir Ceredigion
- Polisi ynghylch Gweithredoedd Annerbyniol gan Ddefnyddwyr Gwasanaeth
Prosesir data categori arbennig, pan gaiff ei brosesu, ar sail budd sylweddol i’r cyhoedd.
Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn arwain at:
Cais Rhyddid Gwybodaeth
- Mae Adran 8(1)(b) y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, 2000 yn mynnu bod enw’r ymgeisydd a chyfeiriad ar gyfer gohebiaeth yn cael eu rhoi er mwyn i’r cais fod yn ddilys. Os na ddarparir y wybodaeth hon, ni ellir prosesu’r cais.
- Os rhoddir enw ffug, efallai na fydd gan yr awdurdod achos dros herio hyn ac fe allai brosesu’r cais. Fodd bynnag, caiff unrhyw apêl i ICO ei hatal gan mai dim ond ceisiadau FOI dilys y gellir eu hystyried. Byddai enw annilys yn torri amod s8(1)(b).
- Os na roddir cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth, ni fydd modd ateb y cais FOI a chaiff ei ystyried yn annilys
Cwyn
- Dim ond pan fydd hynny’n angenrheidiol i’r ymchwiliad i’r gŵyn y gofynnir am fanylion personol. Os na roddir y rhain, ni fydd modd ymchwilio i’r gŵyn; gallai unrhyw ymchwiliad gweithredol gael ei stopio; gallai cwmpas yr ymchwiliad gael ei gyfyngu neu gallai’r ymchwiliad gael ei atal nes y darparir y manylion y gofynnwyd amdanynt.
Data categori arbennig
- Dan GDPR, mae data categori arbennig yn cynnwys data sy’n ymwneud â:
- Chefndir hiliol ac ethnig
- Credoau crefyddol ac athronyddol
- Aelodaeth undeb llafur
- Data biometrig a ddefnyddir i nodi unigolyn
- Data genetig
- Data iechyd
- Data sy’n ymwneud â dewisiadau rhywiol, bywyd rhywiol, a/neu gyfeiriadedd rhywiol
- Er mwyn gwneud Cais Rhyddid Gwybodaeth, ni fydd angen i chi ddarparu’r data hwn.
- Oni bai bod cwyn yn ymwneud â chategori o’r data hwn yn benodol, ni fydd angen i chi ddarparu’r data hwn.
Os bydd cwyn yn ymwneud â’r data hwn yn benodol ac ni chaiff ei ddarparu, ni fydd modd ystyried y gŵyn.
Efallai y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:
Enw;
Cyfeiriad;
Dyddiad geni;
Rhyw;
Cyfeirnod unigryw;
Rhif ffôn;
Cyfeiriad e-bost;
Manylion banc/talu;
Cyfansoddiad eich teulu;
Eich amgylchiadau cymdeithasol;
Eich amgylchiadau ariannol;
Manylion cyflogaeth ac addysg;
Eich anghenion tai;
Delweddau/ffotograffau;
Rhif cofrestru cerbyd;
Gwybodaeth am eich iechyd;
Eich cefndir hiliol neu ethnig;
Safbwyntiau gwleidyddol;
Credoau crefyddol neu athronyddol;
Aelodaeth undeb llafur;
Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu’ch cyfeiriadedd rhywiol;
Data genetig;
Data biometrig;
Euogfarnau troseddol a throseddau; ac ati.
Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth gennych chi yn uniongyrchol, ond rydym yn cael gwybodaeth gan y ffynonellau canlynol hefyd:
Unrhyw adran berthnasol Cyngor Sir Ceredigion
Age Cymru
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Heddlu Dyfed-Powys
Llywodraeth Cymru
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Gellir sicrhau’r mathau canlynol o ddata personol, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:
Enw;
Cyfeiriad;
Dyddiad geni;
Rhyw;
Cyfeirnod unigryw;
Rhif ffôn;
Cyfeiriad e-bost;
Manylion banc/talu;
Cyfansoddiad eich teulu;
Eich amgylchiadau cymdeithasol;
Eich amgylchiadau ariannol;
Manylion cyflogaeth ac addysg;
Eich anghenion tai;
Delweddau/ffotograffau;
Rhif cofrestru cerbyd;
Gwybodaeth am eich iechyd;
Eich cefndir hiliol neu ethnig;
Safbwyntiau gwleidyddol;
Credoau crefyddol neu athronyddol;
Aelodaeth undeb llafur;
Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu’ch cyfeiriadedd rhywiol;
Data genetig;
Data biometrig;
Euogfarnau troseddol a throseddau; ac ati.
Ni throsglwyddir eich gwybodaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda’r derbynwyr canlynol, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:
Mewnol
- Efallai y rhennir gwybodaeth gydag unrhyw adran Cyngor Sir Ceredigion.
Allanol
- Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
- Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
- Comisiynydd y Gymraeg
Ceir sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi efallai, megis:
• Pan fydd gofyn i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn unol â’r gyfraith
• Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth er mwyn atal neu ddatrys trosedd
- Pan fydd ei datgelu er budd hanfodol yr unigolyn dan sylw