Bydd y wybodaeth a gasglwn amdanoch yn cael ei defnyddio i'n galluogi i roi cyngor a chymorth penodol i chi ac i'ch helpu i gofrestru ar gyfer budd-daliadau a gwasanaethau.
Rydym hefyd yn defnyddio gwybodaeth i wella ansawdd ein gwasanaethau, cynllunio gwasanaethau newydd ac i ymchwilio i unrhyw bryderon neu gwynion a allai fod gennych amdanom ni.
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw Erthygl 6(1)(e) o Reoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU – mae angen prosesu er mwyn cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i’r Cyngor.
Ac Erthygl 9(2)(g) o Reoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU – mae angen prosesu am resymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd.
Os na roddwch chi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan ofynnwn amdani, gallai hyn olygu na allwn roi'r cyngor a'r cymorth sydd eu hangen arnoch i gofrestru ar gyfer budd-daliadau a gwasanaethau.
Mae’n bosibl y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad geni
- Rhywedd
- Cyfeirnod unigryw
- Rhif ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Manylion banc/talu
- Cyfansoddiad eich teulu
- Eich amgylchiadau cymdeithasol
- Eich amgylchiadau ariannol
- Manylion cyflogaeth ac addysg
- Eich anghenion o ran tai
- Lluniau/ffotograffau
- Gwybodaeth am eich iechyd
- Eich tarddiad ethnig neu hiliol
- Credoau crefyddol neu athronyddol
- Gwybodaeth am eich cyfeiriadedd rhywiol
- Data biometrig
Er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrthych ond rydym hefyd yn cael gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:
- Llywodraeth y DU
- Llywodraeth Cymru
- Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Ceredigion
- Gwasanaethau Addysg Cyngor Sir Ceredigion
- Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ceredigion
- Coleg Ceredigion
- Addysg Oedolion Cymru
- Aberaid
Mae’n bosibl y byddwn yn cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad geni
- Rhywedd
- Cyfeirnod unigryw
- Rhif ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Cyfansoddiad eich teulu
- Eich amgylchiadau cymdeithasol
- Eich amgylchiadau ariannol
- Manylion cyflogaeth ac addysg
- Eich anghenion o ran tai
- Lluniau/ffotograffau
- Gwybodaeth am eich iechyd
- Eich tarddiad ethnig neu hiliol
- Credoau crefyddol neu athronyddol
- Gwybodaeth am eich cyfeiriadedd rhywiol
- Data biometrig
Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda'r bobl ganlynol yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
- Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Ceredigion
- Gwasanaethau Addysg Cyngor Sir Ceredigion
- Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ceredigion
- Llywodraeth y DU
- Llywodraeth Cymru
- Coleg Ceredigion
- Addysg Oedolion Cymru
- Aberaid
- Adran Gwaith a Phensiynau
- Cyngor ar Bopeth
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Awdurdodau Lleol eraill (os symudwch i sir arall)
Mae yna sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle mae'n bosibl y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, fel:
- Lle mae'n ofynnol i ni roi'r wybodaeth yn ôl y gyfraith:
- Pan fydd angen datgelu'r wybodaeth er mwyn atal neu ganfod trosedd
- Lle mae datgelu er budd hanfodol y person dan sylw
A allaf weld y wybodaeth sydd gan Gyngor Sir Ceredigion amdanaf?
Gallwch. Mae gennych yr hawl i weld a chael copïau o'ch gwybodaeth bersonol gan y Cyngor. Efallai yr hoffech ofyn i ni ddiweddaru, cywiro neu ddileu manylion penodol. Os hoffech wneud ymholiad am eich gwybodaeth bersonol, ysgrifennwch atom yn y cyfeiriad isod:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Ceredigion
Canolfan Rheidol
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UE
E-bost: data.protection@ceredigion.gov.uk
neu ffoniwch 01545 570 881.