Defnyddir y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch er mwyn eich cofrestru gyda'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr, er mwyn eich helpu a'ch cynorthwyo chi yn eich rôl gofalu. Trwy ymuno â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr, byddwch yn cael:

  • Rhifynnau rheolaidd o'r Cylchgrawn i Ofalwyr
  • Gwybodaeth am ddigwyddiadau
  • Gwybodaeth am gyrsiau hyfforddiant
  • Gwybodaeth am wasanaethau a chymorth
  • Gwybodaeth am ymgynghoriadau a gynhelir
  • Gwybodaeth am y Fforwm Gofalwyr
  • Mynediad i Gerdyn Gofalwr Ceredigion

Y sail gyfreithlon er mwyn prosesu eich gwybodaeth yw er mwyn cydymffurfio â'n dyletswydd dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy'n mynnu bod pob awdurdod lleol yn darparu gwybodaeth ddwyieithog, cyngor a chymorth i Ofalwyr. Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr yn helpu i gyflawni'r gofyniad hwn ac mae'n ei gwneud yn haws i Ofalwyr fanteisio ar gyngor a gwybodaeth glir a pherthnasol.

Mae gofyn i ni gael eich caniatâd er mwyn i ni ddarparu gwybodaeth i chi mewn negeseuon e-bost, yn y post neu dros y ffôn.

Mae rhywfaint o'r wybodaeth a anfonir at aelodau'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr ar gael ar dudalennau Gofalwyr gwefan gyhoeddus Cyngor Sir Ceredigion ac mae'r rhai nad ydynt wedi cofrestru gyda'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr yn gallu troi at y wybodaeth. Fodd bynnag, os na fyddwch yn rhoi'r wybodaeth i ni y bydd ei hangen arnom er mwyn eich cofrestru gyda'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr, gallai hyn olygu na fyddwch yn cael y wybodaeth ddiweddaraf a allai eich helpu a'ch cynorthwyo yn eich rôl gofalu.

Byddwn yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:

  • Teitl
  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Y ffurf yr ydych yn ei ffafrio er mwyn cael gwybodaeth ychwanegol/ gohebiaeth gyffredinol (e-bost neu lythyr)
  • Y ffurf yr ydych yn ei ffafrio ar gyfer y Cylchgrawn i Ofalwyr (e-bost neu yn y post)
  • Eich dewisiadau iaith

Yn ogystal, efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth am eich rôl gofalu megis nifer y bobl yr ydych yn gofalu amdanynt, eich perthynas (e.e. mam, tad) gyda'r bobl yr ydych yn gofalu amdanynt a'r mathau o salwch a chyflyrau sydd gan y bobl yr ydych yn gofalu amdanynt.

Er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn, byddwn yn casglu gwybodaeth gennych chi yn uniongyrchol. Pan fyddwch chi wedi rhoi eich caniatâd i Ofal Cymdeithasol Cyngor Sir Ceredigion i rannu eich manylion gyda'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr, efallai y byddwn yn casglu eich gwybodaeth ganddyn nhw er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn i chi.

Ni throsglwyddir eich gwybodaeth y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Fel arfer, ni rennir y data personol y byddwch yn ei roi i ni gydag unrhyw wasanaeth arall o fewn Cyngor Sir Ceredigion, na gydag unrhyw drydydd parti y tu allan i'r sefydliad.

Fodd bynnag, ceir sefyllfaoedd penodol lle y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi efallai, megis:

  • Pan fydd gofyn i'r Cyngor ddarparu'r wybodaeth yn unol â'r gyfraith
  • Pan fydd gofyn datgelu'r wybodaeth er mwyn atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fydd ei datgelu er budd allweddol i'r unigolyn dan sylw