Gan ymateb i bandemig parhaus Covid-19, mae gofyn i Gyngor Sir Ceredigion gyflawni ystod eang o weithgarwch prosesu data personol er mwyn cyflawni ei rwymedigaethau cyffredinol fel awdurdod lleol, ei rwymedigaethau iechyd y cyhoedd cyffredinol a’r rhwymedigaethau sydd arno mewn perthynas â deddfwriaeth a basiwyd gan lywodraeth ganolog. Cynlluniwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn i gynnig trosolwg cyffredinol o’r gweithrediadau prosesu sy’n angenrheidiol oherwydd dyletswydd yr Awdurdod i ymateb i’r pandemig. Rhoddir dolenni i wybodaeth fwy penodol a ddarparir gan randdeiliaid allanol ar ddiwedd yr hysbysiad.
- Efallai y bydd angen prosesu data personol am y dibenion canlynol:
- Deall Covid-19 a risgiau i iechyd y cyhoedd, a rheoli ac atal lledaeniad Covid-19
- Nodi a deall gwybodaeth am unigolion sydd â Covid-19 neu’r rhai sydd mewn perygl o ddatblygu Covid-19
- Darparu gwasanaethau sy’n ymwneud â phrofi a rhoi diagnosis Covid-19, yn ogystal â phrosesu sy’n gysylltiedig ag ymyriadau sy’n ymwneud â Covid-19
- Prosesu mewn perthynas â mynediad i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gan wrthrychau data, sy’n ymwneud â Covid-19.
- Darparu gwybodaeth berthnasol i’r cyhoedd
- Darparu cymorth a darparu rhaglenni cymorth i’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan y Coronafeirws (er enghraifft, taliadau hunanynysu a thaliadau atodol i ofalwyr)
- Gwerthuso a rheoli ymateb yr Awdurdod i’r pandemig
- Ymchwil a chynllunio mewn perthynas â Covid-19.
Y sail gyfreithiol dros brosesu yw:
Cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth weithredu awdurdod swyddogol
Cydymffurfio gyda rhwymedigaeth gyfreithiol
Mewn amgylchiadau penodol, efallai y bydd angen prosesu er budd hanfodol gwrthrych y data.
Pan brosesir data categori arbennig, y sail gyfreithlon fydd:
Erthygl 9(2)(g) GDPR y DU, budd sylweddol y cyhoedd
Erthygl 9(2)(h) GDPR y DU, darparu triniaeth iechyd neu ofal cymdeithasol neu reoli systemau neu wasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol
Erthygl 9 (2)(i) GDPR y DU, diogelu iechyd y cyhoedd
Erthygl 9 (2)(j) GDPR y DU, dadansoddi gwybodaeth at ddibenion ystadegol
Pan fydd gofyn, yr amod prosesu er budd sylweddol i’r cyhoedd fydd:
Dibenion statudol a llywodraethu
Y deddfau neu reolau’r gyfraith y dibynnir arnynt yw:
- Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984
- Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd (Rheoli Gwybodaeth Cleifion) 2002
- Deddf Coronafeirws 2020
- Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020
Efallai y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaethau hyn, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:
Rhyw;
Cyfeirnodau unigryw;
Rhif ffôn;
Cyfeiriad e-bost;
Manylion banc/talu;
Cyfansoddiad eich teulu gan gynnwys cysylltiadau’r aelwyd;
Eich amgylchiadau cymdeithasol;
Eich amgylchiadau ariannol;
Manylion cyflogaeth ac addysg;
Gwybodaeth am eich iechyd;
Ni throsglwyddir eich gwybodaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig
Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda’r derbynwyr canlynol, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Awdurdodau lleol eraill
Llywodraeth Cymru
Sefydliadau o’r Trydydd Sector (er enghraifft, Ymarferwyr Cyffredinol)
Iechyd Cyhoeddus Cymru
GIG Digidol
GIG Lloegr
Adrannau awdurdod lleol perthnasol o fewn Cyngor Sir Ceredigion os bydd gofyn gwneud hynny yn benodol
Ceir sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi efallai, megis:
Pan fydd gofyn i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn unol â’r gyfraith:
• Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth er mwyn atal neu ddatrys trosedd- Pan fydd ei datgelu er budd hanfodol yr unigolyn dan sylw
Llyw.cymru: Profi Olrhain Diogelu (dolen allanol)
GIG Cymru: Profi, Olrhain a Diogelu – Gwybodaeth am Breifatrwydd a Diogelu Data (dolen allanol)
GIG Cymru: Profi – Gwybodaeth am Breifatrwydd a Diogelu Data (dolen allanol)
GIG Cymru: Olrhain – Gwybodaeth am Breifatrwydd a Diogelu Data (dolen allanol)
GIG Cymru: Diogelu – Gwybodaeth am Breifatrwydd a Diogelu Data (dolen allanol)
GIG Cymru: Ap Profi ac Olrhain GIG – Gwybodaeth am Breifatrwydd a Diogelu Data (dolen allanol)
GIG Cymru: Cwynion ac arfer eich hawliau o dan Ddiogelu Data (dolen allanol)
Llyw.cymru: Coronafeirws (COVID-19): cefnogi pobl agored i niwed datganiad preifatrwydd (dolen allanol)
Llyw.cymru: Cynllun cymorth hunanynysu Covid-19: hysbysiad preifatrwydd (dolen allanol)