Rydym yn casglu ac yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol i'n galluogi i ddarparu gwasanaethau addysgol a hyfforddiant i chi. 

Mae eich data yn cael ei brosesu ar sail tasg gyhoeddus yr Awdurdod ac yn unol â rhwymedigaeth gyfreithiol yr ydym yn ddarostyngedig iddi o dan Adran 8 Deddf Addysg 1996.

O ran ein darpariaeth cyfathrebu digidol i chi, cynhelir y prosesu ar sail eich caniatâd. Gallwch dynnu'n ôl o hyn ar unrhyw adeg, trwy gysylltu â staff yn y Ganolfan Ddysgu neu drwy e-bostio info@hctceredigion.org.uk.

Os na roddwch y wybodaeth sydd ei hangen arnom pan ofynnwn amdani, gallai hyn olygu na fyddwch yn gallu cofrestru ar ein cyrsiau. Efallai na fyddwn hefyd yn gallu cael yr arian sydd ei angen arnom gan Lywodraeth Cymru i ddarparu'r cwrs yr ydych am ei astudio i chi.

Wrth ddarparu ein gwasanaethau i chi, gallwn gasglu a storio unrhyw wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu i ni.

Byddwn yn cadw cofnod o'r wybodaeth ganlynol mewn perthynas â'ch data personol:

  • Eich enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif ffôn
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Manylion talu (lle bo hynny'n berthnasol)
  • Anabledd, anghenion dysgu ychwanegol neu ofynion iechyd

(mae'r rhain yn ddewisol ac mae gennych y dewis i ddarparu'r wybodaeth hon ai peidio)

Yn ogystal, mae data amdanoch chi sy'n cael ei ddiffinio fel data categori arbennig. Mae darparu'r data hwn yn ddewisol a bydd yn cynnwys;

  • Ethnigrwydd
  • Math o anabledd
  • Cyflwr iechyd

Os cofrestrwch i ymgymryd â chyfleoedd gwirfoddoli gyda ni, byddwn yn gofyn am dystlythyr. Fel arall, nid ydym yn defnyddio gwybodaeth a gasglwyd o ffynonellau eraill.

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Dim ond pan fydd angen i ni wneud hynny yr ydym yn rhannu data personol ac rydym yn darparu'r data lleiaf sy'n angenrheidiol ym mhob achos. 

Rydyn ni'n rhannu'ch gwybodaeth gyda:

  • Estyn
  • Arolygydd addysg a hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru
  • Llywodraeth Cymru (at ddibenion cyllido)

Os ydych chi'n astudio tuag at gymhwyster neu gredydau, bydd angen darparu'ch data personol i'r corff dyfarnu perthnasol i'w achredu.

Rydyn ni'n rhannu'ch gwybodaeth yn fewnol gyda:

  • Ein tiwtoriaid o fewn y gwasanaeth

Fodd bynnag, mae sefyllfaoedd penodol hefyd lle mae'n bosibl y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, fel:

  • LLe mae'n ofynnol i'r Cyngor ddarparu'r wybodaeth yn ôl y gyfraith
  • Lle mae angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd
  • Lle mae datgelu er budd hanfodol yr unigolyn dan sylw