Fel rhan o’i hagenda Ffyniant Bro, mae llywodraeth y DU wedi rhoi cyllid i awdurdodau lleol y gellir ei ddarparu i randdeiliaid cymwys sy’n gwneud cais amdano. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithredu fel yr asiantaeth arweiniol ar gyfer y rhaglen o fewn ardaloedd Powys a Cheredigion. Mae’r hysbysiad hwn yn nodi sut y caiff eich data personol ei brosesu os byddwch yn gwneud cais am arian grant o dan y rhaglen.

Byddwn yn defnyddio eich data personol at y dibenion canlynol:

  • Asesu ceisiadau am gymorth grant i gyflawni gweithgareddau cymwys o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU fel rhan o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.
  • Darparu cymorth arian grant er mwyn cyflawni gweithgareddau cymwys o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
  • Prosesu taliadau ariannol cyllid grant.
  • Casglu data ar gyfer monitro ac adrodd ar gyflawniad a llwyddiant gweithgareddau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
  • Gweinyddu, monitro a gwerthuso’r cynllun.

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth:

 

Erthygl 6 (1) e GDPR y DU - Mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol.

 

 

Mae’r ddeddfwriaeth berthnasol yn cynnwys:

 

Deddf Lleoliaeth 2011

Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn olygu na fyddwn yn gallu darparu cyllid prosiect.

Gall y wybodaeth sydd ei hangen arnom gennych gynnwys gwybodaeth bersonol, megis:

Enw;

Cyfeiriad;

Rhif ffôn;

Cyfeiriad e-bost;

Manylion banc/talu;
Eich amgylchiadau ariannol;

Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, byddwn ond yn casglu data personol yn uniongyrchol gennych chi, ac ni fyddwn yn cael gwybodaeth amdanoch chi oddi wrth unrhyw ffynhonnell arall.

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â’r derbynwyr canlynol yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

 

Yn fewnol:

 

Staff o fewn y Gwasanaeth Economi ac Adfywio a meysydd gwasanaeth eraill.

 

Cyllid a Chaffael Cyngor Sir Ceredigion

 

Sefydliadau Partneriaeth Economaidd Leol Cynnal y Cardi – Aelodau ac Ymgynghorwyr

 

Yn allanol:

Cyngor Sir Powys

Adrannau Llywodraeth y DU

Cyrff neu Asiantaethau Cyhoeddus a Noddir gan lywodraeth y DU

Ymgynghorwyr ac Aelodau Partneriaeth Leol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Sefydliadau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch cais



Mae yna hefyd sefyllfaoedd penodol eraill lle gallai fod yn ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, megis:


  • Pan fo’n ofynnol i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn ôl y gyfraith
    • Pan fo angen datgelu’r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd
    • Pan fo datgelu er budd hanfodol y person dan sylw.

 

Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chadw am 7 mlynedd ar ôl taliad terfynol y grant.