Y ffordd orau i ddelio â’ch gwastraff gardd yw ei gompostio adref.

compost

  • Mae compostio yn y cartref yn arbed y gost o brynu cynhyrchion compost parod
  • Mae compostio yn y cartref yn lleihau'r baich ar gorsydd mawn sy'n dirywio ac sy'n safleoedd bywyd gwyllt pwysig
  • Gellir defnyddio'r deunydd organig a gompostiwyd i ddarparu bwyd i blanhigion a gwella ansawdd y pridd

Dewch o hyd i mwy o wybodaeth am gompostio yn y cartref ar y wefan ganlynol: Cymru yn ailgylchu - Compostio yn y cartref

Amhosibl i gompostio yn y cartref?

Ni ddylid rhoi gwastraff gardd mewn cynhwysydd gwastraff arferol ar unrhyw gyfrif. Ni chesglir cynhwysyddion gwastraff sy'n cynnwys gwastraff gardd.

Mae’r Cyngor hefyd yn darparu casgliad gwastraff bwyd wythnosol. Gellir rhoi pob gwastraff bwyd nad ydych yn medru ei gompostio yn y cartref yn eich cadi gwastraff bwyd a’i adael ar gyfer ei gasglu ar eich diwrnod casglu wythnosol.