Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Diweddariadau i’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff

Yn anffodus ond yn anochel, mae amrywiaeth o faterion yn gallu effeithio ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau casglu gwastraff. Mae’r rhain yn cynnwys bod y staff a’r cerbydau ar gael a hefyd anawsterau o ran mynediad.

Rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant pan fydd amharu ar y gwasanaethau ac yn ceisio ymateb cyn gynted â phosib.

Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff yn cael ei ddarparu rhwng 8yb a 4yp, fodd bynnag ceir adegau lle byddwn yn gweithio tu allan i’r oriau hyn. Felly, peidiwch â riportio fod eich bin heb gael ei gasglu tan y diwrnod ar ôl eich diwrnod casglu rheolaidd.

Hoffem ddiolch i'n preswylwyr am eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth barhaus ar yr adeg arbennig o heriol hon.

Diolch.

Dyddiad Ardal wedi’i effeithio Math o wastraff sydd wedi’i effeithio Rheswm Cyngor
30ain Mehefin 2025 Trisant, Cwmrheidol, Goginan, Ystumtuen, Pont ar Fynnach, Llanafan, Trawsgoed, New Cross, Dyffryn Paith, Aberffrwd, Llanfihangel y Creuddyn, Cnwch Coch
llwybr 174
Bagiau Ailgylchu Clir a Gwastraff Bwyd Problemau gyda'r fflyd Rhedeg yn hwyr - Ymgeisio i'w casglu ar Ddydd Llun 30ain Mehefin 2025
27ain Mehefin 2025 Tregaron, Llanddewi Brefi, Llangybi, Llwyn y Groes, Llangeitho, Bwlchllan, Talsarn, Bethania, Cross Inn (G)
llwybr 171
Bagiau Ailgylchu Clir a Gwastraff Bwyd Problemau gyda staffio Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf
27ain Mehefin 2025 Llanrhystud, Cross Inn (G), Nebo, Llangwyryfon, Llanddeiniol, Blaenplwyf, Lledrod
llwybr 127
Bagiau Ailgylchu Clir a Gwastraff Bwyd Problemau gyda staffio Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf
27ain Mehefin 2025 Ponterwyd, Cwm Ystwyth, Pont ar Fynnach, Pontrhydygroes, Ysbyty Ystwyth, Ffair Rhos
llwybr 180
Bagiau Ailgylchu Clir a Gwastraff Bwyd Problemau gyda staffio Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf
27ain Mehefin 2025 Tregaron, Cellan, Llanfair Clydogau, Llanddewi Brefi
llwybr 102
Bagiau Ailgylchu Clir Problemau gyda staffio Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf
26ain Mehefin 2025 Talybont, Eglwys Fach, Tre'r Ddol, Dol y Bont, Llandre, Cwmsymlog, Cwmerfyn, Clarach, Borth, Penrhyncoch, Penbontrhydybeddau, Ynyslas, Goginan
llwybr 179
Bagiau Ailgylchu Clir a Gwastraff Bwyd Problemau gyda staffio Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf
26ain Mehefin 2025 Llanon, Nebo, Llanrhystud, Llanddeiniol, Cross Inn (G), Pennant, Trefenter
llwybr 167
Bagiau Ailgylchu Clir a Gwastraff Bwyd Problemau gyda staffio Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf

Dewch yn ôl ar gyfer y diweddaraf

Oherwydd y Pencampwriaeth Beicio sy’n cael ei chynnal yng Ngheredigion dydd Iau, 26 Mehefin 2925, bydd casgliadau gwastraff ar gyfer llwybrau 128 (Ciliau Aeron) a 129 (Derwen Gam) yn cael eu heffeithio.

Er mwyn lleihau tarfu, bydd y criwiau casglu yn dechrau gweithio’n gynnar am 6:00 y bore dydd Iau i gasglu unrhyw wastraff sydd eisoes wedi’i roi allan gan breswylwyr.

Sylwer: bydd unrhyw wastraff nad yw wedi’i gyflwyno cyn 8:00 y bore dydd Iau yn cael ei gasglu dydd Gwener, 27 Mehefin 2025. Rydym yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad a’ch dealltwriaeth.