Mae Amgueddfa Ceredigion yn sefydliad bywiog a chroesawgar sydd wedi’i leoli mewn theatr Edwardaidd hynod. Mae’r arddangosfeydd parhaol yn dyfnhau’n dealltwriaeth o hanes a diwylliant y sir ar gyfer cymuned Ceredigion a’i hymwelwyr. Mae’r amgueddfa hefyd yn gweithio gyda phartneriaid cymunedol mewn canolfannau treftadaeth ledled y sir.

Amgueddfa

Mae gan yr amgueddfa raglen fywiog o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd dros dro, ochr yn ochr â'r arddangosfeydd parhaol.

Mae adnoddau ar gyfer ymweliadau ysgol sy’n tywys eu hunain ar gael ar gais.

Ewch i wefan Amgueddfa Ceredigion am y manylion llawn.

Amgueddfa Ceredigion