Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cyfamod Lluoedd Arfog

Gall cyn-filwyr nawr wneud cais am Gerdyn Cyn-filwr

  • Mae gwasanaeth ymgeisio Cardiau Cyn-filwr ar agor.
  • Mae miloedd a adawodd y lluoedd arfog cyn Rhagfyr 2018 yn gymwys i wneud cais.
  • Mae cardiau'n cadarnhau statws cyn-filwr ac yn symleiddio mynediad at wasanaethau cymorth

Gall miloedd o gyn-filwyr y Lluoedd Arfog nawr wneud cais am Gerdyn Cyn-filwr Lluoedd Arfog EM yn dilyn lansiad y gwasanaeth. Ar ôl misoedd o brofi, gall cyn-filwyr a adawodd y Lluoedd Arfog cyn mis Rhagfyr 2018 wirio eu statws cyn-filwr ar-lein gyda gwasanaeth cais digidol newydd i dderbyn Cerdyn Cyn-filwr drwy'r post. Mae proses ymgeisio ar bapur hefyd ar gael fel dewis arall i’r system ddigidol.

Mae'r Gweinidog Amddiffyn Andrew Murrison wedi croesawu cyflwyno Cardiau Cyn-filwyr, a'r budd y bydd yn ei roi i gymuned y cyn-filwyr.

Dywedodd y Gweinidog Amddiffyn Pobl a Theuluoedd y Lluoedd Arfog, Dr Andrew Murrison:

“Mae’n hanfodol bod pob cyn-filwr yn gallu gwirio eu statws yn gyflym a derbyn y cymorth y maent ei angen ac yn ei haeddu. Mae'r Cardiau Cyn-filwyr hyn yn dangos ein diolchgarwch a'n gwerthfawrogiad i'r rhai sydd wedi gwasanaethu’r wlad hon yn falch, a’r aberthau anhygoel y maent wedi’u gwneud.”

Bydd y Cerdyn Cyn-filwr yn rhoi cydnabyddiaeth glir o wasanaeth i gyn-filwyr,

gan gydnabod cyswllt diriaethol â’r Lluoedd Arfog, ac yn caniatáu iddynt wirio eu statws cyn-filwr yn hawdd i gael mynediad at gymorth a gwasanaethau gan y llywodraeth, elusennau ac awdurdodau lleol.

Mae’r gwasanaeth Cerdyn Cyn-filwr yn cael ei ddarparu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD), ynghyd â’r Swyddfa Materion Cyn-filwyr, fel rhan o’r gwaith i wella’r cymorth sydd ar gael i gyn-filwyr. Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gweithio gyda thîm One Login sef Gwasanaeth Ddigidol y Llywodraeth GOV.UK i ymgysylltu â miloedd o gyn-filwyr i adeiladu’r systemau sydd eu hangen i brosesu symiau mawr o geisiadau cardiau yn gywir ac yn ddiogel. Mae rhagor o fanylion ar gael drwy ddilyn y ddolen hon : https://www.gov.uk/guidance/using-a-veteran-card-as-a-service-leaver


Cyngor Sir Ceredigion yn ennill Gwobr Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr (ERS) y Weinyddiaeth Amddiffyn

Mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar ddydd Iau 22 Medi, cyflwynwyd Gwobr Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr (ERS) i Gyngor Sir Ceredigion am eu hymdrechion i sicrhau bod cymuned Lluoedd Arfog Ceredigion yn cael ei chefnogi.

Roedd Cyngor Sir Ceredigion ymhlith 20 o enillwyr eraill gafodd wobr Arian ERS y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghymru. Yn bresennol, roedd Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd Brian Davies, y Cynghorydd Paul Hinge, yr aelod eiriolwr dros Luoedd Arfog a Geraint Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Pobl a Threfniadaeth.

Mae Gwobr Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr (ERS) y Weinyddiaeth Amddiffyn yn wobr uchel ei bri sy’n cydnabod cyflogwyr sydd wedi dangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog drwy weithredu polisïau ymarferol yn y gweithle. Rhaid i sefydliadau fynd ati i ddangos nad yw cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais annheg fel rhan o’u polisïau recriwtio. Hefyd, rhaid iddynt sicrhau bod eu gweithlu’n ymwybodol o'u polisïau cadarnhaol tuag at faterion sy’n effeithio ar bersonél Amddiffyn yn cynnwys Lluoedd Wrth Gefn, Cyn-filwyr, Gwirfoddolwyr sy’n Oedolion gyda’r Cadetiaid, a gwŷr a gwragedd priod a phartneriaid y rhai sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Ar ran Cyngor Sir Ceredigion, hoffwn ddiolch i bawb am ei ymroddiad parhaus a'i waith caled yn CCLlA Ceredigion i sicrhau bod trigolion cymuned y Lluoedd Arfog yn cael eu cefnogi'n llawn yng Ngheredigion.”

Dywedodd y Cynghorydd Paul Hinge, Hyrwyddwyr y Lluoedd Arfog, “Rwy’n falch bod y gwaith ni’n gwneud yng Ngheredigion wedi cael ei gydnabod ar draws Cymru. Mae gennym Fforwm CCLIA rhagweithiol iawn sy'n ein helpu i gyflawni ein haddewidion cyfamod ac rydym yn ddiolchgar am eu cyfraniadau unigol a chyfunol wrth ein helpu i gyflawni'r wobr hon.”

Am fwy o wybodaeth am Wobrau ERS yng Nghymru ewch i: www.gov.uk/government/publications/defence-employer-recognition-scheme


Llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog

I nodi 10 mlynedd Cyfamod y Lluoedd Arfog, ar 28 Medi, 2021 ail-ddatganodd Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion ac Eiriolwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Paul Hinge, ymrwymiad y cyngor i Gyfamod y Lluoedd Arfog trwy gynnal seremoni lofnodi swyddogol ym Marina Aberystwyth.

Cynhaliwyd y seremoni, a drefnwyd gan Gyngor Sir Ceredigion a’r Llynges Frenhinol, ar fwrdd HMS TRACKER. Er mwyn sicrhau y glynwyd at fesurau iechyd a diogelwch Covid-19, dim ond nifer fach o urddasolion a fynychodd y digwyddiad, gan gynnwys Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi yn Nyfed, Miss Sara Edwards.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Hinge: “Mae hwn yn gyfle unigryw i Geredigion lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog ar fwrdd un o longau’r Llynges Frenhinol. Gan ein bod yn sir â hanes morwrol cyfoethog, mae'n addas bod y seremoni hon yn cael ei chynnal ar un o longau’r Llynges Frenhinol tra bod hi wedi’i hangori yn y marina ffyniannus yn Aberystwyth. Pan gynigiwyd cyfle i ni gynnal y seremoni ar HMS TRACKER, roeddem yn falch iawn o dderbyn y cynnig yn amodol ar reoliadau Covid. Fel Eiriolwr y Lluoedd Arfog a Chadeirydd y Cyngor rwy'n falch iawn ein bod, dros dymor y cyngor hwn, wedi gallu cynnal llawer o ddigwyddiadau seremonïol ar 'dir sych' ond bydd hwn yn arbennig gan nad ydym yn cael gweld y Llynges Frenhinol yma mor aml â hynny, felly rwy'n falch o groesawu Capten a Chriw HMS TRACKER yma i Geredigion ac i Aberystwyth i gynnal y seremoni ar y llong.”

Yn dilyn y seremoni lofnodi fer roedd y Cynghorydd Paul Hinge a’r Lefftenant Thomas Reed RN wedi cyflwyno placiau i’w gilydd i goffáu’r achlysur.

Hoffai Cyngor Sir Ceredigion ddiolch i'r Marine Group am eu cymorth a'u cefnogaeth gyda'r seremoni lofnodi.

Gellir gweld copi o'r Cyfamod wedi'i lofnodi trwy'r ddolen isod a gall unrhyw un sy'n dymuno derbyn gwybodaeth ychwanegol neu sy'n dymuno cael arwyddbost i wasanaethau cefnogol, y gallai fod eu hangen arnynt, gysylltu trwy lenwi “Ein Ffurflen Gyswllt Ar-lein” neu gysylltu â ni trwy'r post neu dros y ffôn ar y manylion a roddir isod.

Cyfamod Lluoedd Arfog Ceredigion

Cyfamod y Lluoedd Arfog yn Nhgymru