Gwasanaeth dros dro yr Adran Rheoli Datblygu mewn ymateb i haint Covid-19
Er mai prif flaenoriaeth y Cyngor, o reidrwydd, ar hyn o bryd yw amddiffyn a darparu gwasanaethau hanfodol i’r mwyaf bregus yn ein cymunedau, bydd y Gwasanaeth Rheoli Datblygu yn ceisio parhau i weithredu i’r graddau y mae hynny’n ymarferol bosibl.
Yn sgil hynny, mae’r Gwasanaeth Rheoli Datblygu wedi llunio Cynllun Parhad Busnes, sy’n amlinellu’r gwasanaeth dros dro y gallwn ei gynnig yn ystod y cyfnod hwn. Yn ogystal, mae’r Cynllun yn cydnabod y bydd yn rhaid cwtogi ar rai gweithgareddau yn ystod y pandemig, er mwyn cefnogi gwasanaethau rheng-flaen hanfodol ac yng ngoleuni mesurau diweddar y Llywodraeth yn yr ymdrech i reoli ymlediad haint Covid-19.
O ganlyniad, nid ydym mwyach yn gallu derbyn unrhyw geisiadau nac unrhyw ymholiadau cyn-ymgeisio a gyflwynir ar bapur ac ni fydd ceisiadau copi caled o’r fath a dderbyniwyd o 20 Mawrth 2020 ymlaen yn cael ein sylw hyd nes y byddwn yn ailafael yn ein dyletswyddau arferol. O’r herwydd, bydd cryn oedi cyn yr ymdrinnir â’r ceisiadau hynny.
Felly, yn ystod y cyfnod hwn, gofynnwn yn garedig i chi gyflwyno unrhyw geisiadau newydd ac unrhyw ymholiadau cyn-ymgeisio drwy ddulliau electronig yn unig, naill ai drwy’r Porth Cynllunio neu drwy anfon e-bost at planning@ceredigion.gov.uk, ac yna gall aelodau staff yr Adran Rheoli Datblygu eu derbyn o bell.
Dylid anfon unrhyw ohebiaeth neu ymholiadau cyffredinol yn electronig drwy e-bostio planning@ceredigion.gov.uk
Yn ychwanegol, gofynnwn hefyd i chi wneud pob taliad naill ai drwy’r Porth Cynllunio neu drwy ein hadran “Taliadau Ar-lein” ar wefan y Cyngor.
Fodd bynnag, tynnir eich sylw at yr wybodaeth ganlynol:
- Cofrestrir/dilysir ceisiadau cynllunio (y rhai a dderbynnir yn electronig) ac er y byddwn yn gallu ymgynghori ag ymgyngoreion arbenigol, yn anffodus ni allwn gynnal ymgyngoriadau cyhoeddus nac ymweliadau safle ar yr adeg hon. Felly, ni phenderfynir ynglŷn ag unrhyw geisiadau cynllunio hyd nes y byddwn yn gallu cwblhau’r gofynion angenrheidiol neu bod y gofynion hynny’n newid.
- Cesglir cwynion gorfodi ond ar hyn o bryd nid ydym yn gallu cwblhau ymweliadau safle (oni thybir eu bod yn angenrheidiol neu yn fater brys i’r Cyngor). O ganlyniad, byddwn yn gohirio ymchwiliadau am y tro.
- Bydd cyngor ar gyfer ceisiadau cyn-ymgeisio a gyflwynir yn electronig yn cael ei brosesu fel arfer, ond yn ystod y cyfnod hwn ni allwn gynnig cyfarfod safle na chyfarfod yn y swyddfa. O ganlyniad, felly, cynhyrchir ymatebion i geisiadau cyn-ymgeisio yn electronig. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd yn bosibl cynnig cyfarfod uniongyrchol gyda Swyddog Rheoli Cynllunio dros y ffôn neu drwy Skype.
Byddwn ni, fel tîm, yn gwneud ein gorau glas i gynnal y Gwasanaeth Rheoli Datblygu yn ystod yr amseroedd ansicr hyn, fodd bynnag byddwn yn canolbwyntio’n hadnoddau ar ymdrin â’r nifer cymharol uchel o achosion cynllunio, yn ogystal ag achosion gorfodi sydd eisoes wedi bod yn destun ymweliadau safle a’r hysbysrwydd angenrheidiol, lle bo hynny’n berthnasol. Byddwn hefyd yn parhau i benderfynu ynghylch unrhyw geisiadau newydd lle nad oes angen cynnal ymweliadau safle na hysbysiadau (e.e. ceisiadau i ryddhau amodau), er yr asesir y rhain fesul achos.
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni drwy anfon e-bost at: planning@ceredigion.gov.uk.
Cofiwch nodi y gall y diweddariad hwn newid ymhellach yn sgil newid deddfwriaeth neu oherwydd capasiti adrannol.