Diweddariad 20/01/2023
Mae Cyngor Sir Ceredigion bellach wedi gwneud ychydig dros 21,000 o daliadau Cymorth Costau Byw i aelwydydd cymwys. Mae cyfanswm o ychydig llai na £3.2 miliwn wedi’i dalu o’r cynllun hwn i gefnogi aelwydydd gyda’r argyfwng costau byw.
Gallwn gadarnhau nawr y bydd ffurflen gofrestru ar-lein yn agor ar 30 Ionawr 2023 o dan gam 2 y cynllun Dewisol.
Mae cam 2 y cynllun Costau Byw yn ôl Disgresiwn yn unig ar gyfer aelwydydd lle mae:
- roedd y person sy'n atebol am Dreth y Cyngor yn byw mewn eiddo yng Ngheredigion fel ei brif gartref ar 15 Chwefror 2022 neu wedi symud i dderbyn neu ddarparu gofal mewn man arall; a
- heb dderbyn taliad Cost Byw o £150 o Gyngor Sir Ceredigion o dan y brif gynllun neu o dan gam 1 y cynllun dewisol (fel yr amlinellir isod)); a
- yn profi caledi ariannol ac angen cymorth gyda'u costau byw.
I’r rhai sy’n bodloni’r meini prawf cymhwyso, cliciwch y botwm isod i wneud cais.
Mae gennym tan 31 Mawrth 2023 i weinyddu’r holl daliadau o dan y cynllun Dewisol; fodd bynnag, bydd y cynllun yn cau’n gynt os bydd ein dyraniad cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi’i ddefnyddio/wedi’i wario’n llawn.
Taliadau Cymorth Costau Byw
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn o fesurau i helpu pobl gyda’r argyfwng costau byw ac mae manylion y cynllun ar gael ar eu tudalen Cynllun Cymorth Costau Byw.
Mae’r pecyn yn cynnwys 2 gynllun:
Daeth y Prif Gynllun i ben am 5yp ar 30 Medi 2022 ac ni ellir gwneud rhagor o daliadau o dan y cynllun hwn.
Y Cynllun Dewisol - Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol i bob awdurdod lleol i’w galluogi i ddarparu cymorth o dan gynllun dewisol, i helpu aelwydydd yr ystyrir bod angen cymorth arnynt gyda’u costau byw.
Bydd Ceredigion yn defnyddio’r cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi aelwydydd nad oeddent yn gymwys i gael cymorth o dan y prif gynllun ac sy’n bodloni’r meini prawf isod:
Bydd Taliad Costau Byw Dewisol o £150 yn cael ei wneud i aelwydydd sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:
- mae’r person sy’n atebol am dalu Treth y Cyngor yn byw mewn eiddo yng Ngheredigion fel ei brif breswylfa ar 15 Chwefror 2022 neu wedi symud i dderbyn neu ddarparu gofal yn rhywle arall; ac
- nid ydynt wedi derbyn taliad Cymorth Costau Byw o dan y prif gynllun: ac
- maent yn derbyn un o’r eithriadau, gostyngiadau neu ddisgowntiau canlynol mewn perthynas â Threth y Cyngor:
- Eithriad Dosbarth I - Nid oes unrhyw un yn byw yn yr eiddo gan fod y person sy’n atebol yn absennol o’r eiddo gan ei fod yn derbyn gofal yn rhywle arall, ond nid mewn cartref gofal
- Eithriad Dosbarth J - Nid oes unrhyw un yn byw yn yr eiddo gan fod y person sy’n atebol yn absennol o’r eiddo gan ei fod yn darparu gofal personol i berson arall yn rhywle arall
- Eithriad Dosbarth U – mae’r holl breswylwyr â nam meddyliol difrifol
- Eithriad Dosbarth X – pobl sy’n gadael gofal sy’n 18 oed neu’n hŷn ond o dan 25 oed
- Bandiau Treth y Cyngor F i I sy’n derbyn gostyngiad yn y band oherwydd anabledd
- Person atebol sy’n byw ar ei ben ei hun mewn eiddo band E i I Treth y Cyngor sy’n cael gostyngiad person sengl o 25%
Dim ond un taliad a gaiff ei wneud i bob aelwyd cymwys, ac yn achos atebolrwydd ar y cyd ac unigol, bydd y taliad yn cael ei wneud i’r person cyntaf a enwir ar fil y Dreth Gyngor.
Ycamau nesaf ar gyfer y cynllun dewisol
Cam 1
- Os oes gennym eich manylion Debyd Uniongyrchol ar eich cyfrif Treth y Cyngor a’ch bod yn bodloni un o’r meini prawf cymhwyso a restrir ym mhwyntiau 1 i 6 uchod, byddwn yn ceisio gwneud y taliad o £150 yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 14 Tachwedd 2022
- Os nad oes gennym eich manylion Debyd Uniongyrchol ar eich cyfrif Treth y Cyngor a’ch bod yn bodloni un o’r meini prawf cymhwyso a restrir ym mhwyntiau 1 i 6 uchod, byddwn yn trefnu i Swyddfa’r Post anfon llythyr taleb i gasglu’r taliad Costau Byw o £150 yn unrhyw un o’u canghennau. Bydd y llythyrau yn cael eu hanfon yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 14 Tachwedd 2022
Cam 2
- Ar ôl cwblhau cam 1 uchod, os oes cyllid yn weddill o dan y cynllun Dewisol, bydd Ceredigion yn agor ffurflen gofrestru ar-lein i aelwydydd nad ydynt wedi cael taliad Costau Byw o £150 ac sy’n profi caledi sylweddol
Bydd y ffurflen gofrestru ar-lein ynghyd â’r canllawiau yn ymddangos yma os a phan fydd Cam 2 yn agor.
Mae gennym tan 31 Mawrth 2023 i weinyddu’r holl daliadau o dan y cynllun Dewisol; fodd bynnag, bydd y cynllun yn cau’n gynt os bydd ein dyraniad cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi’i ddefnyddio/wedi’i wario’n llawn.
Ffurflenni Treth y Cyngor Ar-lein
Defnyddiwch ein ffurflenni ar-lein i roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau neu i wneud cais am wasanaeth.
Hunanwasanaeth - Cyswllt
Mae cyswllt yn galluogi i drigolion gael mynediad at eu cyfrifon Treth Gyngor, Ardrethi (Busnes) Annomestig neu Fudd-dâl Tai/Gostyngiad Treth y Gyngor ar lein drwy gyfrwng gwefan Cyngor Sir Ceredigion.
Gall defnyddwyr cofrestredig gael mynediad at eu cyfrif personol neu fanylion eu ceisiadau. Hefyd, gall landlordiaid y telir Budd-dâl Tai iddynt yn uniongyrchol gael mynediad at fanylion y taliadau hynny.
Ar hyn o bryd nid yw'r system yn gallu derbyn cyfrifon newydd oherwydd materion technegol yr ydym yn gweithio i'w datrys.
Bilio Electronig (e-Filio)
Rydym wedi cyflwyno Bilio Electronig - ddull mwy effeithlon a chyfleus i chi dderbyn eich biliau ac mae hefyd yn cwtogi ein costau argraffu a phostio.
Noder mai dim ond y deiliaid cyfrif y mae gennym eu cyfeiriadau e-bost fydd yn derbyn biliau trwy e-bost. Mewn achos ble mae mwy nag un deilydd i’r cyfrif, mae’n rhaid i bob person ddarparu eu cyfeiriadau e-bost ar wahân neu fe fydd bil papur yn cael ei ddarparu.
Cysylltwch
Allech chi gysylltu â ni ar y ffyrdd canlynol:
Ein Ffurflen Cyswllt Ar-lein
Post:
Gwasanaethau Technegol
Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UE
Ffôn:
01545 572572