Mae nifer o staff Cyngor Sir Ceredigion nawr yn medru gweithio o gartref. Felly, mae yna gyfleoedd arwyddocaol i drawsnewid y mannau oedd yn cael eu defnyddio ar gyfer desgiau ac ystafelloedd cyfarfod yn flaenorol.

Ym mis Rhagfyr/Ionawr 2022 gofynnwyd am eich barn a'ch syniadau am sut i ddefnyddio prif swyddfeydd/adeiladau'r Cyngor yn y dyfodol.

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 31 Ionawr 2022.  

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus hwn wedi rhoi adborth defnyddiol gan drigolion. Bydd eich adborth yn cael ei ystyried ynghyd â'r data sy'n cael ei gasglu ar ddefnydd desgiau ac ystafelloedd cyfarfod yn ardaloedd y swyddfa hybrid peilot ac adborth gan staff.

Byddwn yn adolygu'r holl ddata ac yn gwneud penderfyniad ar ddefnydd o'n swyddfeydd yn y dyfodol ym mis Ebrill 2022.  Bydd yr wybodaeth yn cael ei rhannu'n gyhoeddus drwy ddatganiad i'r wasg a thrwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Gallwch ddarllen mwy am y broses yma: Rhannwch eich barn ar ddefnydd swyddfeydd yn y dyfodol.

Gallwch ddarllen mwy am y strategaeth a’r polisi presennol yma: Croesawu Strategaeth Gweithio Hybrid a'r Polisi Dros Dro