Skip to main content

Ceredigion County Council website

Pwll a Neuadd Goffa Aberteifi

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar y 11fed o Fehefin 2024.

Y dyddiad cau fydd 18fed o Fehefin 2024.

Llythyr gan Matt Newland (Cadeirydd Ymddiriedolwyr - Pwll Coffa Aberteifi ac Ymddiriedolaeth y Neuadd)

 

“Fel bydd llawer ohonoch yn ymwybodol, caeodd  y pwll ym mis Mawrth eleni, oherwydd problemau ariannol sylweddol.  Mae rhain yn cynnwys cynnydd yng nghostau ynni, lleihad mewn incwm (tra’r oedd ar gau i wneud gwaith atgyweiriadau sylweddol), ac ôl-groniad gwaith cynnal a chadw drud a oedd ei angen ar yr adeilad. Daeth yr ymddiriedolwyr i’r penderfyniad anodd na allent barhau i weithredu trwy’r amgylchiadau hyn ac y byddai angen iddynt ystyried opsiynau eraill.

 

Roedd yr Ymddiriedolwyr wedi bwriadu diwygio dogfen lywodraethu’r elusen (sef Cynllun a ddyddiwyd 9 Chwefror 2005) drwy newid pwrpas yr elusen.  Mae’r pwrpas newydd fel a ganlyn:

 

“I hyrwyddo er budd preswylwyr Aberteifi a’r ardal o’i hamgylch y ddarpariaeth o gyfleusterau ar gyfer hamdden neu weithgareddau amser hamdden arall unigolion sydd angen cyfleusterau oherwydd eu hienctid, eu hoed, gwendid neu anabledd, caledi ariannol neu amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd, neu ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol o safbwynt diddordebau llesiant cymdeithasol gyda’r amcan o wella amgylchiadau bywyd y preswylwyr hynny.

 

O ganlyniad i’r newid hwn o’r pwrpas, bydd gan yr Ymddiriedolwyr yr hawl i drosglwyddo’r Pwll a’r Neuadd, ar werth llai i Gyngor Sir Ceredigion. Bwriad Ceredigion yw peidio defnyddio’r adeilad presennol oherwydd y costau sylweddol a nodwyd y byddai’n rhaid ei wario er mwyn trwsio, cynnal ac uwchraddio’r cyfleusterau (am resymau iechyd a diogelwch).  Mae’r Cyngor yn ystyried dichonoldeb defnyddio’r safle ar gyfer Canolfan Lles newydd er rhaid nodi fod hyn yn amodol ar ddod o hyd i ffynhonnell gyllideb briodol.  Maent hefyd wedi awgrymu y byddent yn fodlon ystyried unrhyw gynllun busnes hyfyw a chadarn lle gall grŵp o wirfoddolwyr agor a rhedeg y pwll yn y cyfamser, ac mae ymdrechion ar y gweill i effeithio hyn.

 

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau ynghylch y newid arfaethedig a wnewch chi plîs gysylltu gyda fi, Matt Newland, erbyn 18 Mehefin.  Cyfeiriad e-bost tatnewland@gmail.com"