Eich helpu i fyw’n annibynnol yng Ngheredigion.

Ydych chi’n edrych am gymorth i fyw’n annibynnol?

Mae Canolfan Byw’n Annibynnol newydd Penmorfa, sy’n hybu annibyniaeth a chymorth cymunedol, ar fin trawsnewid y ffordd y mae unigolion yn dod o hyd i atebion a gwybodaeth i helpu eu hunain. Mae’r Ganolfan wedi’i lleoli yng nghanol Ceredigion, ar lawr gwaelod swyddfeydd y Cyngor Sir ym Mhenmorfa, Aberaeron.

Gweledigaeth y Ganolfan yw grymuso unigolion i fyw’n annibynnol am yn hirach yn eu cartref eu hunain. Mae'r ganolfan yn rhoi cyfle i weld amrywiaeth o atebion sy'n gysylltiedig â Gofal, Technoleg, Symudedd a Byw'n Annibynnol. Rhoddir cyngor personol, am ddim, drwy declyn ar-lein AskSARA. Mae AskSARA yn awgrymu atebion ar gyfer byw’n fwy annibynnol drwy helpu pobl i hunanasesu eu hanghenion.

Mae’r ganolfan yn ymroi i gynnig atebion ymarferol i bob grŵp oedran.

(Mae AskSARA ar gael ar-lein hefyd, yma: https://wwcp.livingmadeeasy.org.uk).

Taith Rithwir

Ein Gwasanaethau:

Mae’r Ganolfan wedi’i rhannu i mewn i sawl maes arbenigol i arddangos y cymorth sydd ar gael ar gyfer anghenion amrywiol yn ein cymunedau, megis:

  • Ystafell AskSARA
  • Gofal wedi’i alluogi drwy Dechnoleg
  • Cyfarpar Gofal a Symudedd
  • Cymorth o ran Nam ar y Golwg
  • Addasiadau Tai
  • Ymwybyddiaeth o Ddiogelwch Tân
  • Arweiniad ar Daliadau Uniongyrchol
  • Cymorth i ofalwyr a’r rhai sy’n derbyn gofal

Mae gan y Ganolfan Ystafell Hyfforddi integredig ar gyfer Trin a Thrafod Pwysau a bydd yn cynnig cyrsiau ar Iechyd a Diogelwch i’r grwpiau a nodwyd yn y gymuned leol.

Oriau Agor:

Gallwch gynllunio eich ymweliad yn hwylus. Mae Canolfan Byw’n Annibynnol Penmorfa yn cynnig polisi drws agored ac mae ar agor rhwng 10.30am a 3.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Rydym ar gau ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus.

Yn ogystal â bod yn lle agored i ddysgu rhagor, fel rheol bydd gennym staff ag arbenigedd penodol ar wahanol ddiwrnodau:

Dydd Llun

Cynorthwy-ydd Therapi Galwedigaethol

Dydd Mawrth a Dydd Gwener

Tîm Teleofal

Dydd Mercher

Cysylltwyr Cymunedol i gefnogi gofalwyr

Dydd Iau

Tîm Taliadau Uniongyrchol

Sut i ddod o hyd i ni a chael mynediad:

Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0PA

Mae’n ddigon hawdd cyrraedd Penmorfa. Mae’r ganolfan ar lawr gwaelod adeiladau’r Cyngor ac mae arwyddion o’r ffordd fawr.

Mae’r ganolfan yn gyfleus gyda char, bws, ac ond pum munud ar droed o ganol tref Aberaeron.

Mae gennym faes parcio mawr a llefydd parcio hygyrch. Mae safle bws ger y Ganolfan ac mae llwybr sy’n goleddu, heb risiau, yn arwain at y mynedfeydd a’r cyfleusterau hygyrch. Rydym yn ymroi i sicrhau fod pawb yn gallu defnyddio ein gwasanaethau yn hwylus.

Mae mannau gwefru cerbydau trydan ar gael.