
Newidiadau arfaethedig i'r terfyn cyflymder yng Ngogerddan, Penrhyncoch
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben 2 Ionawr 2025.
Mae'r Cyngor wedi gwneud Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Terfynau Cyflymder 20 mya, 30 mya, 40 mya a 50 mya a Ffyrdd a Ddatgyfyngwyd) (Cydgrynhoi) 2014 (Gogerddan A4159 a C1010) (Gorchymyn Diwygio Rhif 27) 2025, yn dod i rym ar 14/05/2025.
Bydd hyn yn cyflwyno terfyn cyflymder parhaol o 40mya ar yr A4159 ger y groesffordd yng Ngogerddan, gan ddisodli'r terfyn 50mya presennol. Bydd hefyd yn cyflwyno terfyn cyflymder 30mya parhaol newydd ar ran orllewinol y C1010 o'r gyffordd â'r A4159, ar y groesffordd yng Ngogerddan i'w chyffordd â'r A487 ger Ffynnon Caradog.
Ymgynghoriad Gwreiddiol
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig newidiadau i derfynau cyflymder yng Ngogerddan, Penrhyncoch.
Am fwy o fanylion, gan gynnwys sut i gyflwyno unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnig, ewch i "Cyngor Sir Ceredigion (Terfynau Cyflymder 20 mya, 30 mya, 40 mya a 50 mya a Ffyrdd a Ddatgyfyngwyd) (Cydgrynhoi) 2014 (Gogerddan A4159 a C1010) (Gorchymyn Diwygio Rhif 27) 202x" ar ein tudalen Gorchmynion Rheoleiddio Traffig.