Cynnig Mannau Parcio a Thaliadau Parcio Glan Môr Aberystwyth
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben 27 Rhagfyr 2024.
Cafodd yr ymateb i'r ymgynghoriad hwn ei ystyried gan y Cynghorwyr yn y cyfarfod Cabinet ar 21 Ionawr 2025.
Cynigion ynghylch Codi Tâl am Barcio ar y Stryd – Promenâd Aberystwyth.
Penderfyniad:
- Nodi’r ymatebion a awgrymir i wrthwynebwyr (wedi'u diwygio yn unol ag unrhyw benderfyniadau a wneir gan y Cabinet).
- Cymeradwyo’r gwaith o gyflwyno’r Model Codi Tâl arfaethedig ar gyfer Promenâd Aberystwyth fel y nodir yn yr adroddiad.
- Cymeradwyo Creu’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig angenrheidiol.
- Cymeradwyo Cyhoeddi hysbysiad Gwneud dilynol yn y wasg i'r perwyl hwn.
- Nodi y Codir Tâl am Barcio cyn gynted ag y bo modd yn ymarferol wedi hynny.
- Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus.
Y rheswm dros y penderfyniad:
Cyflwyno taliadau am barcio ar hyd y rhan o Bromenâd Aberystwyth sy’n mynd o Drwyn y Castell i Graig Glais, fel bod mwy o leoedd parcio ar gael ar lan y môr yn sgil cynyddu trosiant y cerbydau fydd yn parcio.
Ymgynghoriad Gwreiddiol
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig newidiadau i leoedd parcio a thaliadau parcio ar lan môr Aberystwyth.
Am fwy o fanylion, gan gynnwys sut i gyflwyno unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnig, ewch i "Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Glan Môr Aberystwyth) (Lleoedd Parcio a Thaliadau Parcio) (Gorchymyn Diwygio Rhif 13) 202x" are ein tudalen Gorchmynion Rheoleiddio Traffig.