Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Terfynau Cyflymder 20 mya, 30 mya, 40 mya a 50 mya a Ffyrdd Heb gyfyngiad) (Cydgrynhoi) 2014 (Felinfach) (Gorchymyn Diwygio Rhif 26)
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben 05/06/2024.
Mae'r Cyngor wedi gwneud Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Terfynau Cyflymder 20 mya, 30 mya, 40 mya a 50 mya a Ffyrdd Heb Gyfyngiad) (Cydgrynhoi) 2014 (Felinfach) (Gorchymyn Diwygio Rhif 26) 2024.
Bydd hyn yn ymestyn y terfyn cyflymder 20mya presennol am 11 metr ychwanegol i'r de o'i bwynt terfyn presennol. Gallwch weld y manylion ar-lein ac yn Swyddfa’r Post Felinfach, Felinfach, Llanbedr Pont Steffan, SA48 8AE. Os credwch fod y Gorchymyn hwn yn annilys oherwydd nad yw'n cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, gallwch wneud cais i'r Uchel Lys erbyn 14/01/2025.
DATGANIAD O’R RHESYMAU
Mae Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Terfynau Cyflymder 20 mya, 30 mya, 40 mya a 50 mya a Ffyrdd Heb Gyfyngedig) (Cydgrynhoi) 2014 (Felinfach) (Gorchymyn Diwygio Rhif 26) 2024 yn cael ei gynnig ar sail diogelwch ar y ffyrdd gan ysgol Dyffryn Aeron.