Mae angen i ni siarad â phobl sy'n byw neu'n gweithio yng Ngheredigion am yr hyn a wnawn ni i chi.

Bydd pawb sy'n byw neu'n gweithio yma yn defnyddio rhai o wasanaethau’r cyngor, gan gynnwys y bobl sy'n gweithio i'r cyngor. Gallai'r rhain fod yn ffyrdd, ysgolion, llyfrgelloedd neu gasgliadau biniau. Pan fyddwn yn gwneud newidiadau i'r ffordd rydym yn gwneud pethau, mae angen i ni sicrhau eich bod yn gwybod am y newidiadau hyn ac nad ydynt yn cael effaith wael arnoch.

Rydym wedi diweddaru ein Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi; bydd hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn siarad â phawb ac yn y ffordd orau.

Rydyn ni eisiau gofyn i chi beth yw eich barn am ein dull o siarad â chi. Dilynwch y ddolen isod i ateb tri chwestiwn cyflym am sut rydyn ni'n siarad â chi.

Dweud eich Dweud - Cyngor Sir Ceredigion

Gallwch hefyd ddod o hyd i'r wybodaeth hon a chopïau papur o'r arolwg yn ein llyfrgelloedd a'n canolfannau hamdden.

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 11 Medi 2022.