Map o’r Rhwydwaith Teithio Llesol 2026
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau ar 22 Mawrth 2026.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynnal ymgynghoriad cychwynnol i gasglu adborth ar ofynion Teithio Llesol yn y sir.
O dan ddyletswyddau statudol Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, mae'n ofynnol i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gyflwyno Mapiau o’r Rhwydwaith Teithio Llesol i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2026.
Mae’r mapiau hyn yn cefnogi’r gwaith o gynllunio, cyflawni ac ariannu cynlluniau Teithio Llesol, gan helpu i greu rhwydwaith mwy integredig, hygyrch a chynaliadwy ar gyfer teithio wrth gerdded, ar olwynion ac ar feic.
Cafodd ein map presennol ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru yn 2022 ac mae yn awr yn amser adlewyrchu'r newidiadau a'r gwelliannau sydd wedi’u gwneud dros y tair blynedd diwethaf.
Mae'r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar y prif drefi, sef Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan, sydd wedi'u dethol gan Lywodraeth Cymru fel y lleoliadau Teithio Llesol dynodedig yn y Sir.
Gweld y Map o’r Rhwydwaith Teithio Llesol
Mae’r map presennol o 2022 ar gael ar blatfform Map Data Cymru (sy’n cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru).
Mae’r map yn dangos:
- Llwybrau presennol – dyma'r llwybrau sy'n bodloni safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer teithio llesol (ar gerdded, ar olwynion ac ar feic) ar hyn o bryd.
- Llwybrau’r dyfodol – nodwyd y llwybrau hyn yn ystod ymgynghoriadau blaenorol neu roedd angen gwelliannau arnynt i wella cysylltedd cyffredinol y rhwydwaith.
Gallwch weld map o’r sir gyfan ar MapDataCymru (a gynhelir gan Lywodraeth Cymru).
Sut i rannu eich barn
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg am 6 wythnos rhwng 9 Chwefror 2026 a 22 Mawrth 2026.
I weld ein map rhyngweithiol a chwblhau ein harolwg ar-lein, ewch i: mapdata.llyw.cymru/survey/Ceredigion-AT-consultation-survey.
(Mae'r map hwn yn cynnwys rhai newidiadau sydd wedi'u gwneud i'r rhwydwaith ers 2022).
Lawrlwythwch gopi papur o'r cwestiynau: Arolwg 'Word'
Gallwch hefyd gasglu copi papur o'ch Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol neu drwy ffonio 01545 570881 neu anfon e-bost atom i: clic@ceredigion.gov.uk.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Teithio Llesol yng Ngheredigion ewch i: Teithio Llesol - Cyngor Sir Ceredigion.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â clic@ceredigion.gov.uk (dyfynnwch 'Ymgynghoriad ATNM 2026' drwy e-bost) neu ffoniwch: 01545 570 881.
Cliciwch yma i ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd yr ymatebion a’r adborth a dderbynnir yn cael eu hadolygu, a bydd unrhyw ddiwygiadau posibl i’r map wedyn yn cael eu rhannu yn ystod ein hymgynghoriad cyhoeddus statudol 12 wythnos yn ddiweddarach eleni (disgwylir iddo fod yn ystod yr Haf / Hydref).