Heddiw (27 Awst 2021), mae Cyngor Sir Ceredigion wedi dechrau cyfnod ymgynghori 12 wythnos o hyd ynghylch llwybrau cerdded a beicio presennol ac arfaethedig yn y sir.

Mae'r ymgynghoriad yn dilyn ymgynghoriadau ynghylch cerdded a beicio a gynhaliwyd yn gynharach eleni gyda chyfanswm o 1,003 yn cymryd rhan a 778 o sylwadau yn dod i law.

Arwyddbost o beic a rhiant a plentyn yn dal llaw

Mae'r Cyngor, gyda chymorth Sustrans, wedi ystyried yr holl sylwadau’n ofalus ac wedi cyfuno barn y cyhoedd ynghyd â gwybodaeth berthnasol arall i lunio Map Rhwydwaith Teithio Llesol drafft ar gyfer pob un o'r 3 anheddiad dynodedig yn y Sir: Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan.

O ganlyniad, mae 49km ychwanegol o lwybrau beicio a cherdded arfaethedig ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol drafft sy’n rhan o’r ymgynghoriad o’i gymharu â’r map a gymeradwywyd yn 2017.

Mae'r mapiau ar gyfer aneddiadau dynodedig yn dangos y canlynol:

  • Pa lwybrau sydd angen eu gwella a ble mae angen llwybrau newydd (wedi’u labelu fel “llwybrau’r dyfodol”)
  • Llwybrau sydd eisoes yn bodloni’r safonau dylunio ar gyfer llwybrau teithio llesol (wedi’u labelu fel “llwybrau presennol”)

Bydd canlyniad yr adolygiad yn rhoi blaengynllun o lwybrau i Gyngor Sir Ceredigion, a bydd yn ei ddefnyddio i lywio lle y gellir gwneud gwelliannau i gerdded a beicio yn y Sir yn y dyfodol. Bydd yn helpu i wneud teithiau ar droed neu ar feic yn fwy hygyrch ac yn fwy diogel i bawb, yn enwedig i’r rheini nad ydynt yn cerdded neu'n beicio'n aml ar hyn o bryd a phobl sy’n defnyddio cymhorthion symudedd.

Mae'r Cyngor nawr yn gwahodd preswylwyr i roi gwybod a yw'r llwybrau arfaethedig yn fwy tebygol o'u helpu i fynd o amgylch eu hardal leol fel cerddwr neu feiciwr. Os na, mae'r cyngor yn gofyn i chi ystyried pa welliannau eraill a allai fod yn briodol.

Nod Teithio Llesol yw rhoi’r gallu i gynifer o bobl â phosib ddewis dull amgen i ddefnyddio cerbyd modur, ac fe’i diffinnir fel cerdded a beicio ar gyfer teithiau byr pwrpasol beunyddiol, heb gynnwys teithiau a wneir ar gyfer hamdden neu resymau cymdeithasol yn unig.

Mae Map Rhwydwaith Teithio Llesol y cyngor wedi cael ei adolygu, gan ystyried sylwadau cynharach a dderbyniwyd gan y cyhoedd a phartïon â diddordeb, ac mae Map Rhwydwaith Teithio Llesol Drafft newydd wedi’i baratoi. Mae hwn yn nodi’r llwybrau presennol mewn ardaloedd adeiledig ac uchelgeisiau’r Cyngor ar gyfer y 15 mlynedd nesaf, gan nodi y bydd adeiladu "Llwybrau'r Dyfodol" yn amodol ar geisiadau am gyllid grant, argaeledd tir, amodau amgylcheddol a draenio ac ati.

Gan gefnogi’r gwaith hwn o ymgysylltu â’r cyhoedd, dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod Cabinet Ceredigion dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, Tai, a Chyswllt Cwsmeriaid: “Fel rhywyn sydd byth yn cerdded mae'n bwysyg cael barn y bobol sydd yn cael pleser o gerdded a seiclio beth hoffent eu weld yn cael eu gynnwys mewn map teithio llesol.”

Gellir gweld yr ymgynghoriad yma: ceredigion3.commonplace.is

I gael mwy o wybodaeth am Deithio Llesol yng Ngheredigion, ewch i’n tudalen Teithio Llesol.