Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi gwneud gorchymyn o dan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1984, a’i heffaith yw cau Llwybr Troed 43/15 yn barhaol, lle mae’n rhedeg drwy Ysgol Uwchradd Aberaeron yn ystod oriau ysgol.

Bydd y llwybr yn parhau ar agor ac ar gael y tu allan i oriau ysgol h.y. gyda’r nos, penwythnosau a gwyliau. Y rheswm dros gau yw er mwyn sicrhau diogelwch a lles y plant a’r staff sy’n mynychu’r ysgol. Ni fydd y cau hwn yn cael unrhyw effaith ar bobl sy'n dymuno mynd i'r pwll nofio neu'r ganolfan hamdden; bydd trefniadau ar waith i sicrhau nad yw'r mynediad hwn yn cael ei effeithio.

Os credwch fod y Gorchymyn hwn yn annilys oherwydd nad yw’n cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, gallwch wneud cais i’r Uchel Lys erbyn 29/03/2023.