Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben 28/03/23.

Roedd canlyniadau'r ymarfer hwn yn bwydo i mewn i Asesiad Strategol Trosedd ac Anhrefn Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion. Cafodd yr Asesiad Strategol Trosedd ac Anrhefn ei ystyried gan Gynghorwyr mewn cyfarfod o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyngor Sir Ceredigion ar 11/09/2023. 

Bydd canfyddiadau'r Asesiad Strategol yn llywio Strategaeth Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion am y 3 blynedd nesaf - bydd y Strategaeth yn cael ei chyhoeddi ar wefan Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion maes o law. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y Bartneriaeth.

 

Ymgynghoriad Gwreiddiol

Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion yn gofyn am eich barn ar droseddu ac anhrefn yn y sir a hynny drwy holiadur cyhoeddus.

Mae’r Bartneriaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Heddlu, yr Awdurdod Lleol, yr Awdurdod Tân ac Achub, y gwasanaeth Iechyd, y gwasanaeth Prawf, yn ogystal â sefydliadau eraill sy’n cael eu gwahodd.

Rôl y Bartneriaeth yw gweithio gyda'i gilydd i amddiffyn cymunedau lleol rhag troseddau ac i helpu pobl i deimlo'n fwy diogel. Rhan bwysig o'r gwaith yma yw nodi ac archwilio’r materion cyfoes a bygythiadau posib a allai gael effaith ar Geredigion yn y dyfodol.

Bydd yr holiadur hwn yn cynorthwyo'r Bartneriaeth i nodi'r prif faterion sy'n effeithio ar yr ardal leol, i gael cipolwg ar faterion pwysig megis ofn troseddau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnydd cyffuriau ac alcohol, yn ogystal â chynorthwyo i ddyrannu adnoddau yn effeithiol a blaenoriaethu gweithgarwch. Bydd eich adborth yn rhoi sylfaen dystiolaeth i lywio Cynllun Gweithredu nesaf Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion.

Sut i gymryd rhan

Er mwyn cefnogi’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol i gadw Ceredigion yn ddiogel, byddwch cystal â llenwi’r holiadur erbyn hanner dydd ar 28 Mawrth 2023

Mae fersiwn Hawdd ei Ddarllen, fersiwn Print Bras a fersiwn Pobl Iau o’r arolwg ar gael i’w lawrlwytho. Os oes angen i chi gysylltu â ni, cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk. Bydd copïau papur a fersiynau mewn fformatau eraill hefyd ar gael yn holl lyfrgelloedd Ceredigion, gan gynnwys y faniau llyfrgell symudol.

A hoffech gael gwybod mwy?

Gwybodaeth bellach ar Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion