Skip to main content

Ceredigion County Council website

Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion

Ffurfiwyd Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn dilyn Deddf Trosedd ac Anhwylder 1998, a oedd yn ei gwneud yn ddyletswydd statudol i bob ardal Awdurdod Lleol gael Partneriaeth Diogelwch Cymunedol.

Cafodd aelodaeth y Partneriaethau Diogelwch Cymunedol hyn ei hestyn ymhellach gan Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002, a Deddf yr Heddlu a Throsedd 2009, gan gynnwys y Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau'r Heddlu ac Awdurdodau'r Gwasanaethau Tân ac Achub, a'r Gwasanaeth Prawf.

Sefydlwyd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion yn 1999 fel un o blith 20 o Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae'i haelodaeth yn cynnwys cynrychiolwyr y Cyngor Sir, yr Heddlu, Panel Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Gwasanaethau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ac Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol Cymru, Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Ceredigion, a'r Bwrdd Cynllunio Ardal Dyfed-Powys ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau.

Mae'n gyfrifoldeb statudol ar Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol i gynnal adolygiadau blynyddol o Drosedd ac Anrhefn. Diben yr Adolygiad yw sicrhau bod pobl yn dod yn ymwybodol o natur Trosedd ac Anrhefn, Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Chamddefnyddio Cyffuriau yn y Sir, nodi dulliau o ddatblygu a gweithredu camau effeithiol er mwyn lleihau'r problemau hyn a sicrhau y caiff adnoddau eu defnyddio yn y llefydd cywir er mwyn mynd i'r afael â'r problemau hyn. Defnyddir yr adolygiad hefyd i ddarparu sylfaen gref ‘seiliedig ar dystiolaeth’, wedi’i harwain gan wybodaeth i’r Bartneriaeth i lywio cynllun Cyflenwi Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion.

Cydlynir gweithgareddau'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar lefel Sir gan y tîm partneriaethau, gwasanaeth polisi a perfformiad.