Skip to main content

Ceredigion County Council website

Gorchmynion Rheoleiddio Traffig arfaethedig a rhai a gyflwynwyd yn ddiweddar/Gorchmynion Traffig Arbrofol cyfredol

HYSBYSIAD CYHOEDDUS

Mae'r Cyngor yn cynnig gwneud Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Terfynau Cyflymder 20 mya, 30 mya, 40 mya a 50 mya a Ffyrdd Heb Gyfyngiad) (Cydgrynhoi) 2014 (Felinfach) (Gorchymyn Diwygio Rhif 26) 2024. Bydd hyn yn ymestyn y terfyn cyflymder 20mya presennol am 11 metr ychwanegol i'r de o'i bwynt terfyn presennol. Gallwch weld y manylion ar-lein ac yn Swyddfa’r Post Felinfach, Felinfach, Llanbedr Pont Steffan. Gallwch anfon gwrthwynebiadau, gan nodi’r rhesymau yn ysgrifenedig, at  clic@ceredigion.gov.uk neu i’r Gwasanaethau Cyfreithiol, drwy law Ystafell y Post, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE i gyrraedd erbyn 05/06/2024. 

DATGANIAD O’R RHESYMAU

The Ceredigion County Council (20 mph, 30 mph, 40 mph and 50 mph Speed Limits and Derestricted Roads) (Consolidation) Order 2014 (Felinfach) (Amendment Order No. 26) 2024 is being proposed on the grounds of road safety by Aeron Valley school.

DRAFT ORDER

HYSBYSIAD LLEOLIAD

Cynlluniau i’w dirymu
CE75-J12

Cynlluniau i’w mewnosod
CE75-J12

Gorchymyn sy’n cael ei ddiwygio

HYSBYSIAD CYHOEDDUS

Mae'r Cyngor yn cynnig gwneud Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Felinfach) (Gorchymyn Diwygio Rhif 12) 2024. Bydd hyn yn cyflwyno Gwaharddiad newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg ar y naill ochr a’r llall i’r A482 o 1.75 metr i’r gogledd o ffin ddeheuol yr eiddo sy’n dwyn yr enw Henllan, tua’r de hyd at 8 metr i'r de o bwynt terfyn deheuol presennol y terfyn cyflymder o 20mya. Gallwch weld y manylion ar-lein ac yn Swyddfa’r Post Felinfach, Felinfach, Llanbedr Pont Steffan SA48 8AE. Gallwch anfon gwrthwynebiadau, gan nodi’r rhesymau yn ysgrifenedig, at clic@ceredigion.gov.uk neu i’r Gwasanaethau Cyfreithiol, drwy law Ystafell y Post, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE i gyrraedd erbyn 05/06/2024.

DATGANIAD O’R RHESYMAU

Mae Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Felinfach) (Gorchymyn Diwygio Rhif 12) 2024 yn cael eu fwriadu ar sail diogelwch ar y ffyrdd ar bwys yr Ysgol newydd Dyffryn Aeron.

GORCHYMYN  DRAFFT

HYSBYSIAD LLEOLIAD

Cynlluniau i’w dirymu
dim

Cynlluniau i’w mewnosod
CE75
CE75-T13
CE75-T14

Gorchymyn sy’n cael ei ddiwygio

Mae'r Cyngor wedi gwneud Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd A Chyfyngu Ar Aros A Llwytho A Dadlwytho) 2019 (Glan Môr Aberystwyth) (Gorchymyn Diwygio Rhif 11) 2024, a fydd mewn grym o 01/01/2025, ymlaen i gyflwyno newidiadau i gyfyngiadau parcio y manylir arnynt isod.

Rhif lleoliad

Lleoliad

Disgrifiad

1

Ochr orllewinol Maes Lowri o ochr ogleddol y mynediad i Eglwys Sant Mihangel a’r Holl Angylion tua’r gogledd am tua 6m

Gwaharddiad Newydd ar Aros Ar Unrhyw Adeg

2

Ochr orllewinol Maes Lowri tua'r gogledd o ben gogleddol yr uchod am tua 36m i'r gyffordd â Stryd y Brenin

Aros Cyfyngedig Newydd Llun-Sad 8am - 6pm 2 awr dim dychwelyd o fewn 2 awr, yn lle’r parcio digyfyngiad sy’n bodoli eisoes

3

Heol y Brenin ar ochr y tir o ddiwedd y Gwaharddiad presennol ar Aros Ar Unrhyw Adeg ar y gyffordd â Maes Lowri tua'r de-orllewin am tua 109m i ddiwedd y Gwaharddiad presennol ar Aros Ar Unrhyw Adeg trwy fynediad i gerddwyr i'r maes chwarae

Aros Cyfyngedig Newydd Llun-Sad 8am - 6pm 2 awr dim dychwelyd o fewn 2 awr, yn lle’r parcio digyfyngiad sy’n bodoli eisoes

4

Rhodfa Newydd ar ochr y tir ger y Cambria ac adeilad Prifysgol Aberystwyth

Gwaharddiad Newydd ar Aros Ar Unrhyw Adeg, disodli’r cilfachau parcio sy’n bodoli eisoes (a gwaharddiad ar aros am garafannau a charafannau modur 11pm – 8am) a chilfach meddygon oherwydd newidiadau i aliniad y briffordd (colli tua 12 lle parcio)

5

Rhodfa Newydd ochr y môr ger y pier, cilfach tacsis sy’n bodoli eisoes 9pm - 6am

Cilfach i'w lleihau o ran hyd o tua 10m i 24m a chyfyngiadau newydd Cerbydau nwyddau yn llwytho dim ond 6am – 6pm, 1 awr, dim dychwelyd o fewn 1 awr; tacsis yn unig 6pm – 6am.

6

Rhodfa Newydd ochr y môr yn union i'r gorllewin o'r gilfach uchod am bellter o tua 21m tua'r gorllewin

Gwaharddiad Newydd ar Aros Ar Unrhyw Adeg, er mwyn gwella diogelwch symudiadau croesfannau i gerddwyr

7

Rhodfa Newydd ochr y môr, yn union i'r gorllewin o'r uchod am tua 55m tua'r gorllewin (tua 10 lle parcio)

Aros Cyfyngedig Newydd Llun - Sad, 8am - 6pm, 4 awr, dim dychwelyd o fewn 4 awr gyda’r Gwaharddiad presennol ar Aros am garafanau a charafanau modur 11pm - 8am yn cael ei gadw

8

Rhodfa Newydd ochr y môr, yn union i'r de-orllewin o'r uchod am tua 20m

Gwaharddiad Newydd ar Aros Ar Unrhyw Adeg yn lle’r Gwaharddiad presennol ar Aros am garafanau a charafanau modur 11pm - 8am, er mwyn gwella diogelwch ar gyfer symudiadau croesfannau i gerddwyr (colli tua 4 lle parcio)

9

Rhodfa Newydd ochr y môr, yn union i'r de-orllewin o'r uchod am tua 90m

Aros Cyfyngedig Newydd Llun - Sad, 8am - 6pm, 4 awr, dim dychwelyd o fewn 4 awr gyda’r Gwaharddiad presennol ar Aros am garafanau a charafanau modur 11pm - 8am yn cael ei gadw

10

Rhodfa Newydd ochr y môr, yn union i'r gorllewin o'r uchod am tua 55m i ddechrau'r Gwaharddiad presennol ar Aros Ar Unrhyw Adeg

Gwaharddiad Newydd ar Aros Ar Unrhyw Adeg yn lle’r Gwaharddiad presennol ar Aros am garafanau a charafanau modur 11pm - 8am, (colli tua 10 lle parcio)

11

Rhodfa Newydd y ddwy ochr i'r ffordd o ddiwedd y Gwaharddiad presennol ar Aros Ar Unrhyw Adeg i'r de o Drwyn y Castell i gyfeiriad deheuol am tua 220m i'r gyffordd â Than-y-Cae

Gwaharddiad Newydd ar Aros Ar Unrhyw Adeg, yn lle’r gwaharddiad presennol ar aros am garafannau a charafannau modur 11pm – 8am (colli tua 40 o leoedd parcio)

12

Ochr ogleddol Tan-y-Cae o'r gyffordd â Rhodfa Newydd tua'r dwyrain am tua 15m i ddechrau'r Gwaharddiad presennol ar Aros Ar Unrhyw Adeg ar Stryd y Ro

Gwaharddiad Newydd ar Aros Ar Unrhyw Adeg i annog pobl i beidio â pharcio ar y gyffordd.

13

Ochr ddeheuol Tan-y-Cae o ddiwedd y Gwaharddiad presennol ar Aros Ar Unrhyw Adeg ar y gyffordd â’r Ro Fawr tua'r dwyrain am tua 16m i ddechrau'r Gwaharddiad presennol ar Aros Ar Unrhyw Amser ar y gyffordd â Ffordd y Cei

Gwaharddiad Newydd ar Aros am garafannau a charafannau modur 11pm – 8am (yn cwmpasu tua 3 lle parcio)

14

Dwy ochr y Ro Fawr o ganol y gyffordd â Than-y-Cae tua'r de am tua 15m

Diwygio maint y Gwaharddiad ar Aros Ar Unrhyw Adeg i atal parcio ger y gyffordd

15

Ochr y tir y Ro Fawr o ben yr uchod tua'r de am tua 20m (ffurfio y tu allan i Rif 1 i ran o'r ffordd y tu allan i Rif 5)

Cilfach Newydd i Bobl Anabl (tua 5 lle parcio)


16

Y Ro Fawr ar ochr y tir o ben deheuol y Gilfach Anabl newydd arfaethedig uchod am tua 25m i'r de

Diwygio maint y Gwaharddiad presennol ar Aros am garafanau a charafanau modur 11pm - 8am

17

Y Ro Fawr ar ochr y môr o tua 15m i'r de o ganol y gyffordd â Than-y-Cae am tua 45m tua'r de (tua'r lefel gyda'r ffin i Rifau 8 a 9)

Diwygio maint y Gwaharddiad presennol ar Aros am garafanau a charafannau modur 11pm - 8am, yn lle’r Gilfach Anabl sy’n bodoli eisoes ar ochr y môr

18

Y Ro Fawr dwy ochr y ffordd o ben deheuol y Gwaharddiad uchod diwygiedig ar Aros am garafanau a charafannau modur 11pm - 8am am tua 10m i'r de

Gwaharddiad Newydd ar Aros Ar Unrhyw Adeg i wella diogelwch symudiadau croesfannau i gerddwyr

19

Y Ro Fawr dwy ochr y ffordd am tua 45m tua’r de i ymyl/gyferbyn â Rhif 19

Diwygio maint y Gwaharddiad presennol ar Aros am garafannau a charafannau modur 11pm – 8am (tua 8 lle parcio)

20

Y Ro Fawr ochr y môr o ben deheuol yr uchod am bellter o tua 10m tua'r de i'r Gwaharddiad presennol ar Aros Ar Unrhyw Adeg

Gwaharddiad Newydd ar Aros Ar Unrhyw Adeg yn lle’r gwaharddiad presennol ar aros am garafannau a charafannau modur 11pm – 8am, (colli tua 2 le parcio)

21

Ffordd y Cei ar yr ochr ogleddol o ddiwedd y Gwaharddiad presennol ar Aros Ar Unrhyw Adeg ar y gyffordd â’r Ro Fawr am tua 15m i'r gogledd-ddwyrain

Gwaharddiad Newydd ar Aros am garafanau a charafannau modur 11pm – 8am i du allan i Rif 7 (tua 3 lle parcio)

Gellir gweld y manylion yn Llyfrgell Canolfan Alun R. Edwards, Maes y Frenhines, Aberystwyth, SY23 2EB. Os credwch fod y Gorchymyn hwn yn annilys oherwydd nad yw'n cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol, gallwch wneud cais i'r Uchel Lys erbyn 22/11/2024.

DATGANIAD O’R RHESYMAU

Cynigir gwneud Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Glannau Môr Aberystwyth)(Gorchymyn Diwygiedig Rhif 11) 2024 er mwyn osgoi perygl i bobl neu draffig arall ac atal y tebygolrwydd y bydd perygl o'r fath yn codi; hefyd hwyluso taith ar y ffyrdd hyn (gan gynnwys i gerddwyr) a gwella amwynderau'r ardal. 

Gorchymyn Diwygiedig

Cynlluniau i’w dirymu

CE36 H16
CE36 J15
CE36 J16
CE36 J17

Cynlluniau i’w mewnosod

CE36 H16
CE36 J15
CE36 J16
CE36 J17

Cofnodion