Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cynllun Gweithredu Dementia Ceredigion - Arolwg Ymgysylltu â'r Cyhoedd

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben 31/03/2023.

Roedd canlyniadau'r ymgyrch hwn yn bwydo i mewn Cynllun Gweithredu Dementia Ceredigion. Cafodd yr Cynllun Gweithredu Dementia Ceredigion ei ystyried gan Gynghorwyr mewn cyfarfod o Cyfarfod Cabinet ar y 03/10/2023. 

Cyflwyno canlyniad Cynllun Gweithredu Dementia Ceredigion i'r Cabinet

PENDERFYNIAD:

·       Creu Grŵp Datblygu Dementia Integredig Ceredigion i oruchwylio’r gwaith o gyflawni’r cynllun gweithredu.

·       Rhannu canfyddiadau cychwynnol yr ymgysylltu gyda’r cyhoedd, a datblygu Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu gan sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o’r cynnydd parhaus mewn perthynas â chyflawni’r cynllun gweithredu.

·       Rhoi adroddiad Cynnydd Blynyddol i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

·       Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

Ymgynghoriad Gwreiddiol

Mae Ceredigion yn cynnal Arolwg Ymgysylltu â'r Cyhoedd i sefydlu sut yr ydym yn gwneud a beth y gallwn ei wneud i wella bywydau pobl sydd yn byw â dementia a'r rheini sy'n gofalu amdanynt.

Sut i gymryd rhan

Cwblhewch yr holiadur erbyn canol dydd ar Fawrth 31ain 2023. Gallwch naill ai ymateb neu lawrlwytho’r ffurflen ymateb a’i dychwelyd drwy e-bost neu’r post i Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion SA46 0PA.

Os oes angen i chi gysylltu â ni neu os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformatau eraill (er enghraifft, fersiwn Hawdd ei Ddeall, fersiwn print bras neu fersiwn pobl ifanc), cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk.

Sesiynau Galw Heibio

Mae sesiynau galw heibio wedi eu trefnu yn y trefi canlynol yng Ngheredigion: -

Dydd Llun 13 Mawrth

11:00-14:00 - Aberaeron - Feathers Royal Hotel
16:00-19:00 - Llandysul - Gwesty’r Porth

Dydd Mawrth 14 Mawrth

14:00-19:00 - Aberystwyth a'r cyffiniau - Canolfan Morlan, Queen's Road/North Parade

Dydd Iau 16 Mawrth

11:00-14:00 - Tregaron - Neuadd Goffa
16:00-19:00 - Llanbedr Pont Steffan - Victoria Hall

Dydd Gwener 17 Mawrth

14:00-19:00 - Aberteifi - Neuadd y Dref

Cwestiynau Cyffredin

Ydy fy adborth yn ddienw?

Ydy, mae eich adborth yn ddienw.